Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Helen

Holi Helen

Helen Prosser yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Helen yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 – rôl wirfoddol, gyffrous a phrysur! Dyma ei hanes...

1. Beth yw eich rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod?

Mae’r Eisteddfod fel triongl. Mae’r Cyngor Sir yn gwneud llawer o’r gwaith paratoi gyda’r pethau technegol, mae staff yr Eisteddfod yn trefnu pethau fel y Rhaglen a’r Maes, ac yna mae’r gwirfoddolwyr hollbwysig. 

Y gwirfoddolwyr sy’n dechrau trefnu’r cystadlaethau ac sy’n codi arian. Y cam nesaf yw codi ymwybyddiaeth, cyn troi at harddu’r ardal.

Dw i’n cynrychioli’r gwirfoddolwyr lleol, gan gefnogi’r holl weithgareddau ar draws yr ardaloedd.  

2. Dych chi’n dod o Donyrefail, ger Pontypridd. Sut deimlad yw cael yr Eisteddfod yn eich milltir sgwâr?

Wel, erbyn hyn, mae cyffro i’w deimlo ym mhob man – mae pobl leol, yn siaradwyr Cymraeg, yn ddysgwyr, ac yn rhai di-Gymraeg, yn dweud eu bod am ddod.

Mae’r Eisteddfod yn gyfle i bobl ddod at y Gymraeg. Bydd popeth yn Gymraeg ond mae offer cyfieithu ar gael. Mae’r Eisteddfod hefyd yn gyfle i roi hwb economaidd i’r ardal a ’dyn ni’n gofyn i ymwelwyr gefnogi bwytai a busnesau lleol.

Dw i hefyd yn falch ein bod ni fel pwyllgor yn gweithio gyda phantri bwyd Strategaeth Bryncynon i gefnogi’r bobl leol. ’Dyn ni’n gofyn i bobl ddod ag eitem o fwyd gyda nhw. Mae’r Eisteddfod yn ddrych o gymdeithas ar ac oddi ar y Maes.

3. I bobl sy eisiau crwydro’r ardal, ble dych chi’n argymell iddyn nhw fynd?

Rhaid crwydro’r dre ac ymweld â’r farchnad, a meini’r orsedd ar y comin. Dych chi’n gallu mynd ar y metro i dop y Rhondda ac ymweld â Phen-pych, lle hyfryd i fynd am dro, a gweld stryd fawr Treorci a enillodd wobr. Gallwch chi fynd i Aberdâr i weld y parc gwledig bendigedig. Mae hefyd farchnad dan do yno a oedd yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf ym 1861. Mae Llantrisant yn bentref hyfryd, gyda’r Guildhall a’r Tŷ Model, sy’n llawn crefftau a phethau Cymreig.

I'r bobl sy’n dod i’r Eisteddfod – cofiwch ddod â gwisg nofio. Am y tro cyntaf erioed, bydd pwll nofio awyr-agored ar y maes – Y Lido. I archebu sesiwn yn y pwll, mae angen bwcio ymlaen llaw.

4. Beth gall rhywun sy erioed wedi bod yn yr Eisteddfod ei ddisgwyl?

Cwestiwn pwysig. Mae tair ffordd o weld beth sy’n digwydd ar y maes:

1) Dych chi’n gallu gweld rhaglen yr wythnos drwy lawrlwytho ap yr Eisteddfod.

2) Mae’r rhaglen hefyd ar wefan yr Eisteddfod: eisteddfod.cymru.

3) Dych chi hefyd yn gallu prynu copi caled o’r Rhaglen.

Mae adloniant drwy’r dydd, bob dydd.

5. Beth yw Maes D a beth sy’n digwydd yno?

Mae Maes D yn arbennig. Mae’n bentre ar y Maes i bobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae gwybodaeth am gyrsiau Dysgu Cymraeg, tipi gyda adloniant a chaffi. Yn y caffi, bydd bwrdd arbennig i gael sgwrs a bydd rhywun wrth y bwrdd drwy’r amser i sgwrsio. Bydd sesiwn sgwrsio a chyflwyniad i’r Eisteddfod i ddysgwyr ar lefel Mynediad peth cyntaf bob bore. Bydd yr awdur Siôn Tomos Owen yn darllen stori bob dydd. Bydd sgyrsiau diddorol hefyd.

6. Beth yw eich hoff beth chi am yr Eisteddfod?

Dw i’n mwynhau bod ym Maes D a siarad â phobl sy’n dysgu Cymraeg. Dw i’n hoffi gweld grwpiau ar Lwyfan y Maes a mynd i sgyrsiau yn y Babell Lên. Dw i hefyd yn hoffi mynd mas o’r Maes gyda’r nos i wylio dramâu a bwyta mewn tafarndai a bwytai lleol. Ond hefyd, i fi, mae’n gyfle i gwrdd â theulu a ffrindiau. 

7. Mae llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi bod – pa un oedd eich ffefryn?

Mae’n anodd dewis ffefryn - mae pob ardal wedi gwneud pethau gwych. Un uchafbwynt i fi oedd cael gig Cymraeg am y tro cyntaf erioed yn Nhonyrefail. Noson arall sy wedi aros yn y cof yw sgwrs gyda Russell Isaac yng nghrochendy Nantgarw. Cawson ni nawdd gan The Welsh Cheese Company – roedd y caws yn hollol hyfryd ac roedd awyrgylch arbennig yno.

8. Disgrifiwch yr Eisteddfod mewn tri gair.

Hwyl. Cyfeillgar. Diwylliant.