Holi Mark
Mae Mark Bond yn gweithio fel Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cafodd ei fagu yn Sir Benfro, ac mae wedi dechrau siarad Cymraeg eto, diolch i gwrs magu hyder yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn.
Dyma sgwrs gyda Mark am ei brofiad o ail-ddechrau siarad Cymraeg.
Beth ydy dy hanes di â’r Gymraeg?
Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg pan o’n i yn yr ysgol gyfun yn 11 oed. Ro’n i’n mwynhau Cymraeg, ond pan wnes i ddewis pynciau Lefel A, r’on i’n meddwl basai pynciau eraill yn fwy defnyddiol i mi yn y dyfodol.
Ond dywedodd fy mam, “Gwranda, rwyt ti’n dda iawn yn siarad Cymraeg a dw i’n hapus i ffeindio swydd ran amser i dalu am wersi ar ôl ysgol i ti wneud Lefel A Cymraeg.” A dechreuodd hi swydd ran amser yn glanhau un o swyddfeydd y dref er mwyn talu am wersi ar ôl ysgol i mi.
Yn rhyfedd iawn, dw i nawr yn gweithio i Cyfoeth Naturiol Cymru yn yr union swyddfa oedd fy mam yn glanhau i dalu am fy ngwersi Cymraeg!
Beth ddigwyddodd ar ôl i ti orffen yr ysgol?
Ar ôl gadael yr ysgol, gwnes i symud i Loegr a ddim siarad Cymraeg am bron i 30 mlynedd. Dw i’n ôl yn byw yng Nghymru ers 20 mlynedd, ond gwnes i gadw’r ffaith fy mod i’n gallu siarad Cymraeg yn gyfrinach tan ddwy flynedd yn ôl.
Doedd gen i ddim hyder i siarad Cymraeg.
Beth wnaeth newid?
Y newid i mi oedd treulio wythnos yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ar gwrs trochi ddwy flynedd yn ôl. Roedd yn hollol anhygoel ac yn eithaf emosiynol. Newidiodd popeth ar ôl i mi fod yn y Nant. Dw i nawr yn parablu am y profiad wrth bawb.
Mae’n anodd egluro pa mor arbennig a defnyddiol oedd e.
Gwnes i fideo byr am y profiad i’w rannu gyda chyd-weithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac maen nhw wedi cael llwyth o geisiadau i fynd i’r Nant ers rhannu’r fideo - gan bobl fel fi oedd wedi colli eu hyder yn yr iaith.
Heddiw, mae gen i lawer o hyder a does dim ots gen i am wneud camgymeriadau. Dw i’n siarad yn rhydd iawn, ac os nad dw i’n gwybod y gair Cymraeg, dw i’n ei ddweud yn Saesneg a chario mlaen. Y peth pwysicaf yw cael dy ddeall, nid siarad yn berffaith.
Dyma fideo gan Mark yn sôn am ei brofiad yn Nant Gwrtheyrn: