Bydd partneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn galluogi bydwragedd ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, er mwyn cefnogi menywod a’u teuluoedd sy'n derbyn gofal.
Mae'r fenter yn rhan o ddarpariaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal, sy'n helpu gweithwyr ar draws y sector i ddysgu a magu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg, gan gefnogi amcanion fframwaith ‘Mwy na Geiriau’ Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd cwrs Dysgu Cymraeg newydd yn cael ei deilwra'n benodol ar gyfer y maes, a bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cydweithio â’r Coleg Brenhinol i hyrwyddo'r cwrs i'r 2,000 a mwy o fydwragedd sy'n gweithio ledled Cymru.
Yn ogystal â'r cwrs blasu, mae deunyddiau dysgu wedi'u datblygu, gan gynnwys cardiau ar gyfer lanyards sy'n cynnwys cyfarchion ac ymadroddion perthnasol y gall bydwragedd eu defnyddio yn eu gwaith.
Bydd bydwragedd hefyd yn gallu manteisio ar ddarpariaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer y sector Iechyd a Gofal, sy’n cynnwys mynediad at diwtor Dysgu Cymraeg ym mhob bwrdd iechyd, ynghyd â llu o gyrsiau ac adnoddau hunan-astudio ar-lein.
Mae'r bartneriaeth â Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn adeiladu ar bartneriaethau tebyg blaenorol y Ganolfan â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ac elusen Macmillan.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
"Mae’r Ganolfan yn cynllunio’r ddarpariaeth Dysgu Cymraeg yn strategol. Mae’n arwain rhaglenni ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, ar draws gwahanol sectorau, ochr yn ochr â’n gwasanaethau cymunedol helaeth. ’Dyn ni’n falch iawn o gydweithio â Choleg Brenhinol y Bydwragedd ar y rhaglen ddiweddaraf hon. Drwy ddarparu deunyddiau dysgu perthnasol, sydd wedi’u teilwra, a hyfforddiant hyblyg, ein nod yw cefnogi bydwragedd i ddatblygu eu sgiliau a magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.
Meddai Julie Richards, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru:
"Mae bydwragedd yn cefnogi menywod a’u teuluoedd trwy rai o adegau pwysicaf eu bywydau, ac mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ofalu am fenywod yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’w profiadau. Byddwn yn annog mwy o fydwragedd ledled Cymru i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a manteisio ar y cyfleoedd newydd hyn, diolch i’n partneriaeth â'r Ganolfan Genedlaethol.”
Bydd y bartneriaeth yn cael ei lansio am 11.30am ddydd Llun, 3 Awst, yn Stondin ‘Mwy na Geiriau’ ar faes Eisteddfod y Garreg Las, yng nghwmni Julie Richards, Dona Lewis, a chynrychiolwyr eraill.