Pwysigrwydd cerddoriaeth wrth ddysgu Cymraeg

Wnaf i byth anghofio’r profiad ges i yn fy nhymor cyntaf ym Mhantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, o eistedd yn nhafarn y Cŵps yng nghanol criw o ffrindiau oedd yn morio canu Lleucu Llwyd, a finnau erioed wedi clywed y gân.
Ces i fy magu yn Nhonyrefail ar aelwyd ddi-Gymraeg, a do’n i erioed wedi clywed y gân o’r blaen. Ro’n i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd, ac wedi gwneud Lefel O a Lefel A Cymraeg ail-iaith yn Ysgol Gyfun Tonyrefail, ond roedd bandiau a chaneuon Cymraeg yn hollol newydd i mi.
Wrth gwrs, ro’n i’n 18 oed, heb swydd na theulu na chyfrifoldebau – a ches i’m trochi o’r tymor cyntaf yna yn y diwylliant Cymraeg. Buan iawn ro’n innau’n gallu ymuno, gan ganu fel taswn i wedi fy magu yn sŵn y geiriau.
Felly, dw i wastad wedi teimlo ei bod yn ddyletswydd arnon ni yn y sector Dysgu Cymraeg i gyflwyno cymaint o ddiwylliant a cherddoriaeth Gymraeg ag y gallwn i siaradwyr newydd.
Denu, dysgu a chreu siaradwyr gweithredol
Yn y Ganolfan, ’dyn ni wedi gweld sut y gall cerddoriaeth ddenu pobl at y Gymraeg, eu helpu yn y broses o ddysgu, a meithrin teimlad o berthyn yn y gymuned ehangach.
Wrth siarad â’n dysgwyr, ’dyn ni’n clywed dro ar ôl tro sut mae pobl wedi dechrau dysgu ar ôl clywed band neu gerddoriaeth Gymraeg.
Gallaf feddwl am dri dysgwr yn ddiweddar – un oedd yn byw yn y Awstria, ond bellach wedi setlo yng Nghaernarfon, ddaeth ar draws Gorkys ar hap ar Spotify. Un arall o ogledd ddwyrain Cymru welodd Daniel Lloyd yn perfformio mewn panto, a chwympo mewn cariad â’i fand, Daniel Lloyd a Mr Pinc. Ac yna person o Gaerdydd, glywodd fandiau Cymraeg ar BBC Radio 5 ar Ddydd Miwsig Cymru, a phenderfynu dechrau dysgu o ddifri.
’Dyn ni hefyd yn clywed sut mae ein dysgwyr yn gwrando ar gerddoriaeth er mwyn dysgu geirfa newydd. Mae BBC Radio Cymru ac S4C yn bartneriaid pwysig i ni yn y Ganolfan ac mae gwrando ar gerddoriaeth, a chlywed sgwrs naturiol yn y Gymraeg, yn rhan bwysig o’r broses ddysgu.
Yr elfen dw i’n teimlo’n gryf iawn amdani, sy’n greiddiol os ’dyn ni eisiau creu siaradwyr hyderus, yw sut gall cerddoriaeth feithrin ymdeimlad o berthyn i’r gymuned ehangach.
Dyna pam ’dyn ni’n ystyried cefnogi dysgwyr yn y gymuned bron cyn bwysiced â’r gwersi eu hunain. Mae ein darparwyr cyrsiau yn gwneud y gwaith pwysicaf o drefnu cyfleoedd di-ri i’n dysgwyr yn eu cymunedau. Mae’r Ganolfan yn ategu at y gweithgareddau hyn trwy drefnu cyfleoedd cenedlaethol.
Cyrsiau preswyl
Enghraifft wych o hyn yw ein cyrsiau preswyl. Mae gennym gwrs Cymraeg yn y Cartref ym mis Chwefror, yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Bydd hwn yn benwythnos fydd yn cynnig amgylchedd croesawgar i deuluoedd gael siarad Cymraeg, tra yn yr un modd yn cyflwyno diwylliant Cymreig iddyn nhw – megis sesiwn ganu gyda Martyn Geraint a sesiwn glocsio gyda Tudur Phillips.
’Dyn ni hefyd yn falch iawn o’r cwrs preswyl newydd i bobl ifanc, sy’n cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin i gyd-fynd â Gŵyl Canol Dref. Bydd y bobl ifanc yn cael profiadau dysgu yn ystod y dydd ac yna gyda’r hwyr, maen nhw’n cael mynd i’r ŵyl i fwynhau bandiau Cymraeg.
Y Gair a’r Gân
Ac mae ein cynllun ‘Y Gair a’r Gân’ yn mynd o nerth i nerth – gyda Tara Bethan ac Alun Saunders yn artistiaid eleni. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i bob darparwr lleol gael sesiwn gan yr artistiaid – sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ym mhob cwr o Gymru glywed caneuon poblogaidd Cymraeg tra’n dod i adnabod ein sêr cenedlaethol.
Diwylliant Cymraeg unigryw
Oes, mae lle canolog i gerddoriaeth yn nhaith iaith ein dysgwyr a dw i’n benderfynol o roi cymaint o gyfleoedd â phosibl i’n siaradwyr Cymraeg newydd deimlo’n rhan o’n diwylliant Cymraeg unigryw.
Gwell i fi fynd nawr i bacio fy ukulele yn barod ar gyfer ein clwb ukulele yn Nhonyrefail – clwb gafodd ei sefydlu yn rhan o waddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’n rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg yr ardal ddod at ei gilydd i ddysgu caneuon megis Ar Lan y Môr a Coffi Du, tra’n chwarae’r ukulele ....a dw i wrth fy modd!
Gan Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.