Y CEFR: Llwybr clir i ddysgu Cymraeg
Mae’n haws nag erioed i ddysgu Cymraeg, diolch i’r ystod eang o gyrsiau amrywiol sydd ar gael. Mae ein cyrsiau wedi’u seilio ar gwricwlwm cenedlaethol, gan ddarparu llwybr clir i ddysgwyr ddefnyddio a mwynhau’r iaith.
Mae’r cyrsiau, sydd wedi’u llunio a’u datblygu gan arbenigwyr iaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cyd-fynd â lefelau dysgu Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Mae’r cyrsiau ar gael ar bum lefel:
- Mynediad (ar gyfer dechreuwyr)
- Sylfaen
- Canolradd
- Uwch
- Gloywi (ar gyfer dysgwyr rhugl a siaradwyr iaith gyntaf)
Felly, beth yn union yw'r CEFR, a sut mae'n helpu?
Mae’r CEFR yn fframwaith i ddisgrifio'r hyn y gall dysgwyr ei wneud wrth ddysgu iaith, gam wrth gam. Mae’n cynnwys lefelau gwahanol: A1 ac A2 (defnyddwyr sylfaenol), B1 a B2 (defnyddwyr annibynnol), a C1 a C2 (defnyddwyr hyfedr). Pwrpas y CEFR yw eich arwain ar eich taith iaith, a dangos sut mae mynd o fod yn ddechreuwr i fod yn siaradwr rhugl. Mae’r fframwaith yn darparu camau a nodau ymarferol a chlir, gan ddangos ble dych chi arni o ran eich gallu ieithyddol yn ystod y camau gwahanol.
Mae’r cyrsiau Dysgu Cymraeg yn adlewyrchu’r CEFR, ac wedi’u cynllunio’n ofalus gan arbenigwyr dysgu a chaffael iaith y Ganolfan i’ch arwain a’ch cynorthwyo chi o ddeall ymadroddion syml i allu cyfathrebu’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dilynwch y ddolen i weld sut mae lefelau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn cyd-fynd â’r CEFR: Tabl y CEFR | Dysgu Cymraeg
Dych chi’n gallu dod o hyd i ragor o wybodaeth am ein lefelau dysgu drwy ddilyn y ddolen nesaf: Lefelau dysgu | Dysgu Cymraeg
Os oes unrhyw gwestiwn gyda chi, neu os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein cyrsiau, mae croeso i chi gysylltu â ni - ’dyn ni yma i’ch helpu!