Mae Matthew Jones, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Florida (UF) yn yr UDA, wedi dysgu Cymraeg ac wedi creu rhaglen i fyfyrwyr y gyfraith UF i ddod i astudio a gweithio yng Nghaerdydd am chwech wythnos dros yr haf.
Bu Matthew yn gweithio’n agos gyda Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd, rhai o gwmnïau cyfreithiol y ddinas, a Llywodraeth Cymru i lunio’r rhaglen, sydd nawr ar ei hail flwyddyn.
Pwrpas y cwrs yw rhoi cyfle i’r myfyrwyr o’r America ddod i Gymru i gael profiad gwaith ac i ddysgu am y wlad, ei hanes a diwylliant, a’r iaith.
Meddai Matthew, “Mae’r rhaglen yn rhoi digon o amser i fyfyrwyr fwynhau bwrlwm dinas Caerdydd, a chael blas ar y byd gwaith. Dw i hefyd yn ceisio cyflwyno’r Gymraeg a hanes Cymru iddyn nhw, fel bod ganddyn nhw ddealltwriaeth o’r diwylliant a threftadaeth Cymru erbyn iddyn nhw adael.
Mae Matthew yn gweithio gydag amryw o sefydliadau eraill yng Nghymru dros y Gymraeg. Ychwanegodd “Dw i’n gweithio ar nifer o brosiectau yn ychwanegol i’r rhaglen yma, rhai sy’n gweithio’n fwy uniongyrchol â’r Gymraeg a phobl ifanc.
“Dw i’n falch o’r gwaith dw i’n ei wneud gyda Llywodraeth Cymru ar raglen Seren, a dw i hefyd wedi dechrau gweithio gyda’r Urdd ar eu gwaith rhyngwladol”.
Doedd Matthew ddim yn ymwybodol o’r Gymraeg nes iddo “faglu ar ei thraws” tra’n astudio Llenyddiaeth Brydeinig.
Dywedodd, “Ro’n i’n astudio Llenyddiaeth Brydeinig, a gwnes i ddod ar draws gwaith Iolo Morganwg. Doeddwn i erioed wedi gweld y Gymraeg o’r blaen ac ro’n i’n teimlo fod rhaid i mi ddysgu mwy am yr iaith er mwyn deall y llenyddiaeth gynnar yn well.
“O ymchwilio, deallais fod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn dal i gael ei siarad yng Nghymru, a phenderfynais bod angen i mi ddysgu o leiaf ychydig bach o Gymraeg.”
O ganlyniad, daeth Matt i Brifysgol Caerdydd i astudio cwrs meistr am flwyddyn yn 2015, a bu’n cael gwersi Cymraeg yno hefyd. Trochodd ei hun yn niwylliant Cymraeg y brifddinas, ac erbyn gadael roedd yn gallu siarad Cymraeg.
Meddai Matt, “Dw i’n dal i ddweud wrth bobl fod y Gymraeg wedi achub fy mywyd mewn rhyw ffordd. Ffeindiais i gyfeiriad i fy mywyd am y tro cyntaf yn 28 mlwydd oed.”