Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys 2025-26

(Cynllun Sabothol)

Y Cwrs 2 Dymor

Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig cyfleoedd i ymarferwyr addysg ddatblygu eu sgiliau Cymraeg trwy ddysgu dwys llawn amser dros gyfnod penodol.

Darparwyr a’r Ardaloedd 

Darperir y cyrsiau gan dri darparwr, sy’n gwasanaethu’r ardaloedd canlynol:

Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Canolbarth a De Orllewin Cymru: Sir Powys, Sir Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot

De Cymru: Pen y bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, Mynwy

Cwrs Dwys Dau Dymor  

  • I bwy? Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg gyda sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (Cyfnod Sylfaen a/neu CA2).
  • Lefelau: Tymor 1 (Hydref) – Sylfaen, Tymor 2 (Gwanwyn) – Canolradd
  • Hyd: 2 dymor ysgol, llawn amser
  • Dull Dysgu: Cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb a rhithiol (3 diwrnod rhithiol + 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol)

Amcanion y Cwrs 

  • Datblygu sgiliau iaith Cymraeg a’u defnyddio’n drawsgwricwlaidd yn yr ysgol.
  • Dysgu am fethodolegau dysgu iaith i godi safonau a chryfhau hyder athrawon.

Noder: Bydd ceisiadau ar gyfer cyrsiau Medi 2026 yn agor ym mis Ionawr 2026.

Yn y cyfamser, rydym yn cynnig cyrsiau rhad ac am ddim i’r gweithlu addysg ar ein Porth Gweithlu Addysg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae pob croeso i chi gysylltu trwy ebostio cymorth@dysgucymraeg.cymru.

Cyrsiau Tymor yr Haf 2026 (Tymor 3)

Yn ystod Tymor 3 2026, bydd yr arlwy o gyrsiau yn amrywio yn ôl ardal. Mae manylion cyrsiau Tymor yr Haf 2026 wedi cael eu rhyddhau isod. 

Gogledd Cymru

Dyma'r cyrsiau fydd ar gael yn ardaloedd Sir Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam yn ystod Tymor yr Haf (Tymor 3) 2026.

  • Athrawon: Lefel Gloywi - Cymraeg Proffesiynol, cwrs 15 diwrnod (rhwng Mehefin 1af - Gorffennaf 14eg 2026)
  • Cynorthwy-wyr Dysgu sector Cynradd: Lefel Mynediad, 25 diwrnod (rhwng Ebrill 13eg - Mai 15fed)
  • Cynorthwy-wyr Dysgu: Lefel Uwch, cwrs 20 diwrnod (rhwng Ebrill 16eg - Mehefin 26ain 2026)
Canolbarth a De Orllewin Cymru

Dyma'r cyrsiau fydd ar gael yn ardaloedd Sir Powys, Sir Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot yn ystod Tymor yr Haf (Tymor 3) 2026.

  • Athrawon Sector Uwchradd: Lefel Gloywi - Cymraeg Proffesiynol, cwrs 15 diwrnod (rhwng Mehefin 1af - Gorffennaf 17eg 2026)
  • Athrawon Cymraeg fel Ail Iaith, Sector Uwchradd: Lefel Gloywi, cwrs 25 diwrnod (rhwng Ebrill 20fed - Gorffennaf 9fed 2026)
  • Athrawon Addysg Gorfforol, Sector Uwchradd: Lefel Mynediad, cwrs 15 diwrnod (rhwng Mehefin 1af - Mehefin 19eg 2026)

 

De Cymru

Dyma'r cyrsiau fydd ar gael yn ardaloedd Pen-y-bont, Y Fro, Caerdydd, Merthyr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, a Mynwy yn ystod Tymor yr Haf (Tymor 3) 2026.

  • Athrawon Sector Cynradd Ysgolion cyfrwng Saesneg: Lefel Sylfaen, 11 wythnos (rhwng Ebrill 13eg - Gorffennaf 3ydd 2026)
  • Athrawon Addysg Gorfforol, Sector Uwchradd: Lefel Mynediad, cwrs 15 diwrnod (rhwng Mehefin 1af - Mehefin 19eg 2026)
  • Athrawon Cymraeg fel Ail Iaith, Sector Uwchradd: Lefel Gloywi, cwrs 25 diwrnod (rhwng Ebrill 20fed - Gorffennaf 9fed 2026)
Gwneud Cais am Gwrs Dwys

Bydd ceisiadau ar gyfer cyrsiau Tymor 3 (Tymor yr Haf) 2026 yn agor ar y 16eg o Fedi 2025, a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd y 13eg o Hydref 2025.

Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi fan hyn pan fydd y ceisiadau ar agor unwaith eto ar gyfer cyrsiau Tymor yr Haf 2026.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae pob croeso i chi gysylltu trwy ebostio cymorth@dysgucymraeg.cymru