Cwrs Addas I: Ymarferwyr Cynradd ac Uwchradd i ddechrau’r daith iaith.
Lefel: Mynediad.
Hyd: 12 mis (bydd modd i chi ddilyn y cwrs ar eich cyflymder eich hun, ar adeg sy’n gyfleus i chi).
Dull Dysgu: Hunan-Astudio Ar-lein (Cefnogaeth Tiwtor yn ddewisol).
Lleoliad: Bydd sesiynau rhithiol gyda Thiwtor yn cael eu darparu fel rhan o’r cwrs hwn. Byddan nhw'n cynnwys sesiynau adolygu, sgwrsio ayyb. Bydd manylion dyddiadau ac amseroedd yn cael eu rhannu unwaith bydd y cwrs wedi dechrau.
Dyddiad Dechrau: Ar ddechrau pob tymor academaidd.
Bwriad y cwrs: Bydd y cwrs yn cyflwyno patrymau ieithyddol sylfaenol. Dyma’r cwrs i’w ddilyn os dych chi’n newydd i’r Gymraeg neu gydag ychydig o sgiliau Cymraeg eisoes.
Os hoffech ddilyn y cwrs hwn fel Cwrs Hunan-astudio heb gefnogaeth tiwtor, gallwch gofrestru trwy ddilyn y ddolen hon ar gyfer fersiwn y Gogledd, a'r ddolen hon ar gyfer fersiwn y De.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn y cwrs gyda chymorth tiwtor, bydd y cyrsiau nesaf yn dechrau ym mis Ionawr 2026. Bydd ffurflen cofrestru diddordeb yn ymddangos ar y dudalen yma ym mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth gallwch gysylltu â cymorth@dysgucymraeg.cymru.