Yn ystod yr hyfforddiant, byddwch yn dysgu:
- Sut i fod yn diwtor Dysgu Cymraeg;
- Egwyddorion sylfaenol addysgu, dysgu ac asesu;
- Cynllunio gwersi iaith yn briodol gan ystyried anghenion dysgwyr;
- Cyflwyno gwersi gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau effeithiol;
- Defnyddio adnoddau amrywiol priodol, gan gynnwys adnoddau TG er mwyn cefnogi’r dysgu.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yr un pryd â Chwrs Haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, fydd yn rhoi cyfle i chi arsylwi a chymryd rhan mewn gwersi.