Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd: effaith gadarnhaol cynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

26 Mawrth 2026

Dyddiad: Dydd Iau 26 Mawrth 2026
Amser: 4:30–6:00pm
Lleoliad: Neuadd ac Oriel, Y Senedd, Bae Caerdydd

Ymunwch â ni i glywed sut mae’r Ganolfan yn allweddol i gynllunio ieithyddol yn y gweithle, ac yn cefnogi cyflogwyr o wahanol sectorau.

Bydd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg; James Owen, Prif Weithredwr Medr, a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan yn ymuno â’n Prif Weithredwr Dona Lewis.

Noddir y digwyddiad gan Tom Giffard AS.

Darperir lluniaeth.

Cofrestrwch eich presenoldeb islaw cyn 2 Mawrth.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r digwyddiad hwn.

Gwahoddiad