Yn sgil pandemig Covid-19, trosglwyddwyd yr holl ddarpariaeth Dysgu Cymraeg i gyrsiau rhithiol, a pharhaodd y drefn hon, fwy neu lai, dros y ddwy flynedd roedd Covid ar ei anterth. Sefydlwyd patrymau newydd o weithio, patrymau oedd yn hollol newydd i’r sector Dysgu Cymraeg. Llwyddwyd i gynnal ac ymestyn y gwasanaeth yn llwyddiannus, a gwelwyd cynnydd yn y niferoedd oedd yn dysgu’r Gymraeg a chynnydd yn y gweithgareddau dysgu.
Mae’r Ganolfan yn falch o’r dewis eang sydd ar gael i ddysgwyr bellach, gan gynnwys dulliau wyneb yn wyneb, rhithiol, cyfunol (rhithiol a wyneb yn wyneb) ac hunan-astudio. Mae niferoedd y dysgwyr sy’n manteisio ar y cyfleoedd Dysgu Cymraeg wedi tyfu’n gyson ers sefydlu’r Ganolfan yn 2016. Am y tro cyntaf eleni rydym yn cyhoeddi data am y dulliau amrywiol sy’n cael eu cynnig gan y sector.
- Yn 2022-2023 roedd 25% o’n dysgwyr wedi dilyn cyrsiau wyneb yn wyneb, 44% wedi dilyn cyrsiau rhithiol, 5% wedi dilyn cyrsiau cyfunol, 24% wedi dilyn cyrsiau hunan-astudio a 3% wedi dilyn cyrsiau preswyl.