Data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024-2025
Mae'r data yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2024 a 31 Gorffennaf 2025.
2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg i weithluoedd a chynlluniau Dysgu Cymraeg i bobl ifanc yn cael eu cynnal o Ebrill i Fawrth. At bwrpas y cyhoeddiad, cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2025 yn unig.
Cyfnod Data Dyddiad Cyhoeddi |
Nifer y Dysgwyr Unigryw
Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu cwblhau yn ystod y flwyddyn.
2024-2025: Cynnydd o 61% yn nifer y dysgwyr unigryw o'i gymharu â 2017-2018 |
|
Nifer y Gweithgareddau Dysgu
Gall dysgwyr gwblhau mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.
Cwblhaodd dysgwyr 2024-2025 34,960 o weithgareddau dysgu, cynnydd o 12% o’i gymharu â 2023-2024.
Mae 79% yn fwy o weithgareddau dysgu yn 2024-2025 o’i gymharu â’r niferoedd yn y cyhoeddiad cyntaf yn 2017-2018.
Mae dysgwyr yn manteisio ar gyfleoedd i ddwysáu eu dysgu wrth fynychu ystod o weithgareddau sydd ar gael iddynt.
Ffrydiau Gwaith
Mae Gweithgareddau’r Ganolfan wedi esblygu ar hyd y blynyddoedd, ac erbyn 2024-2025 mae ystod gwaith Dysgu Cymraeg yn eang, ac yn cynnig rhaglenni gwahanol i gynulleidfaoedd amrywiol. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Ganolfan gyhoeddi data am ei ffrydiau gwaith amrywiol.
2024-2025: Canran y dysgwyr fesul Ffrwd Gwaith | Yn 2024-2025 roedd:
|
Mae dysgwyr sy’n dysgu wyneb yn wyneb ac yn rhithiol yn y gymuned hefyd yn cynnwys pobl ifanc, pobl mewn gwaith a rhieni / gwarcheidwaid.
Lefelau Dysgu
Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar hyd continwwm iaith oddi fewn i’r Cwricwlwm Dysgu Cymraeg cenedlaethol. Mae rhai cyrsiau yn cael eu cofnodi fel ‘arall’ yn cynnwys cyrsiau byr sy’n cael eu cynnig ar bob lefel.
O’r dysgwyr sydd ar gyrsiau lefel penodol yn 2024-2025:
Roedd 61% o ddysgwyr ar Lefel Mynediad (sy’n cynnwys Cyn-Mynediad). Roedd 14% ar Lefel Sylfaen, 9% ar Lefel Canolradd, a 14% ar Lefel Uwch a Hyfedredd.
Mae 2% wedi cwblhau cyrsiau ar Lefel Codi Hyder, cyrsiau o fath newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd eisiau codi hyder i ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
Dychwelyd
Nod y Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg newydd sy’n mwynhau defnyddio’r iaith.
Mae taith dysgu pob dysgwr yn unigryw, ac anogir pawb sy’n dilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt. Mae sgiliau ysgrifennu, darllen, siarad a gwrando yn rhan o bob lefel yn y cwricwlwm Dysgu Cymraeg.
Anogir dysgwyr i barhau â’u taith iaith yn ddi-dor ar hyd y continwwm, ond mae rhai dysgwyr yn dewis dilyn lefel benodol yn unig, neu’n dewis dysgu, a symud trwy’r lefelau, dros gyfnod estynedig, gan gymryd saib bob yn hyn a hyn.
Yn 2024-2025 cyhoeddir am y tro cyntaf y data sy’n dangos nifer y dysgwyr sydd wedi dewis dychwelyd i barhau â’u taith iaith.
2024-2025: 62% wedi dychwelyd i ddilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg |
|
Mae cyrsiau Preswyl a chyrsiau fesul awr wedi eu heithrio o’r niferoedd dychwelyd oherwydd natur wahanol y cyrsiau hyn.
Oed dysgwyr
Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2024-2025, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2024. Y dysgwr sy’n gyfrifol am gyflwyno ei ddyddiad geni.
2024-2025: Cynnydd o 56% yn y bobl ifanc o'i gymharu a 2018-2019 |
|
Dull dysgu
Mae’r Ganolfan yn falch o’r dewis eang o ddulliau dysgu sydd ar gael i’w dysgwyr, gan gynnwys dulliau wyneb yn wyneb, rhithiol, cyfunol (hunan-astudio gyda rhithiol neu wyneb yn wyneb) a hunan-astudio.
2024-2025: Nifer dysgwyr unigryw fesul dull dysgu | Yn 2024-2025 roedd:
|
Ethnigrwydd
Mae opsiwn i ddysgwyr nodi ethnigrwydd. Nid yw'r maes yn ofynnol, ac mae'n bosib dewis 'gwrthod cyflwyno gwybodaeth' neu ei adael yn wag.
Yn 2024-2025 roedd 73% o’r dysgwyr unigryw wedi cofnodi gwybodaeth am ethnigrwydd.
Roedd 5% o’r dysgwyr wedi cofnodi ethnigrwydd amrywiol, mae hyn yn gynnydd o 1% o’i gymharu â data 2023-2024.
Roedd 95% wedi cofnodi ethnigrwydd gwyn.







