Helo!
’Dyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i Gynhadledd Flynyddol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Yn y bore, bydd siaradwyr gwadd yn ymuno â ni, ac yn y prynhawn, bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithdai. Mae croeso i chi ymuno â ni am y bore neu’r prynhawn, neu drwy’r dydd.
Lleoliad, dyddiad ac amser
- Lolfa Ricoh, Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ
- 10.00am – 3.00pm, Dydd Gwener, 9 Mai
Amserlen y dydd
10.00am |
Cofrestru, paned |
10.30am |
Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: |
11.00am |
Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg |
11.20am |
Mererid Wyn Williams, Cyfarwyddwr cynorthwyol - arolygu a gwasanaethau canolog Estyn |
11.40am |
Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C |
12.00pm |
Cinio |
1.10pm |
Gweithdy A: dewis o bedwar gweithdy – manylion isod. |
2.10pm |
Gweithdy B: dewis o bedwar gweithdy – manylion isod. |
3.00pm |
Cloi |
Gweithdai
Bydd gweithdai yn cael eu cynnal yn y prynhawn. Bydd cyfle i chi ddewis eich gweithdai ar y dydd. Dyma'r gweithdai bydd yn cael eu cynnal.
Datgloi dysgucymraeg.cymru
Trosolwg o ddatblygiadau diweddaraf y safle rhyngweithiol gyda Dr Mair Lenny Turner.
Meithrin dygnwch mewn cyfnod o newid
Bydd Dr Glenda Jones yn arwain sesiwn ryngweithiol sy’n ystyried yr amodau sydd angen ar gyfer gweithio’n effeithiol mewn cyfnod o newid a thrafod strategaethau i’w gweithredu er mwyn cyrraedd ein nodau.
The Trainer’s Voice. A User’s Guide to Vocal Health and Effective Practice: Ian Nicholas
Carles de Rosselló Peralta, Cap del Servei de Foment de l'Ús
Cofrestru
I gofrestru, llenwch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.
RSVP erbyn 2 Mai.
Ffurflen gofrestru
Trafnidiaeth
Car
Os dych chi’n teithio o’r dwyrain neu’r gorllewin, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 33 a dilyn yr A4232 tuag at Benarth. Ar ôl tua chwech milltir, gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae prif fynedfa’r stadiwm ar Heol Lecwydd (B4267). Mae digon o lefydd parcio rhad ac am ddim ar gael.
Trên
Mae’n bosib dal trên o orsaf Caerdydd Canolog i Barc Ninian neu Grangetown/Trelluest. Mae’n bum munud o gerdded i’r stadiwm o orsaf Parc Ninian, a 10 munud o gerdded o orsaf Grangetown/Trelluest.
Bws
Gallwch deithio ar wasanaeth rhif 1 a 2 (Canol Caerdydd, Bae Caerdydd i Sloper Road) a gwasanaeth rhif 95 a 95A (Canol Caerdydd, Wood St. i Barc Jubilee/ASDA Heol Lecwydd).
Cysylltu â ni
Os oes cwestiwn gyda chi, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at swyddfa@dysgucymraeg.cymru.