Croeso
Bydd y gynhadledd yn cyflwyno gwybodaeth am y CEFR a’r modd mae’n cael defnydd yng Nghymru a thu hwnt.
Ble a phryd?
- Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ
- 10.00am – 3.30pm, 4 Rhagfyr 2025
Amserlen
10.00am | Cofrestru a phaned |
10.30am | Sgwrs agoriadol: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, |
10.50am | Cyflwyniad: Dona Lewis, Prif Weithredwr, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. |
11.00am | Beth yw’r CEFR? Yr Athro Waldemar Martyniuk, arbenigwr rhyngwladol mewn addysg ac asesu ieithyddol. |
12.00pm | Cinio |
1.00pm | Profiadau'r Byd Addysg: Cyflwyniad gan yr Athro Paula Kristmanson a phanel trafod. |
1.40pm | Profiadau'r Farchnad Lafur: Cyflwyniad gan yr Athro Cecilie Hamnes Carlsen a phanel trafod. |
2.20pm | Datblygu un llwybr dysgu clir ar gyfer y sector Dysgu Cymraeg i oedolion - cwricwlwm, cyrsiau ac ymchwil: Helen Prosser, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol Dr Emyr Davies, CBAC Athro Steve Morris, Prifysgol Abertawe |
2.40pm | Diolchiadau |
2.45pm | Paned a rhwydweithio |
3.30pm | Gorffen |
Cofrestru
Mae cofrestriadau ar gyfer y gynhadledd bellach wedi cau. Cysylltwch â swyddfa@dysgucymraeg.cymru er mwyn bod ar y rhestr aros.
Sut i gyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd
Car
Os dych chi’n teithio o’r dwyrain neu’r gorllewin, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 33 a dilyn yr A4232 tuag at Benarth. Ar ôl tua chwech milltir, gadewch yr A4232, gan ddilyn arwyddion Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae prif fynedfa’r stadiwm ar Heol Lecwydd (B4267). Mae digon o lefydd parcio rhad ac am ddim ar gael.
Trên
Mae’n bosib dal trên o orsaf Caerdydd Canolog i Barc Ninian neu Grangetown/Trelluest. Mae’n bum munud o gerdded i’r stadiwm o orsaf Parc Ninian, a 10 munud o gerdded o orsaf Grangetown/Trelluest.
Bws
Gallwch deithio ar wasanaeth rhif 1 a 2 (Canol Caerdydd, Bae Caerdydd i Sloper Road) a gwasanaeth rhif 95 a 95A (Canol Caerdydd, Wood St i Barc Jubilee/ASDA Heol Lecwydd).