Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Rhisga
CrossKeys
NP11 7ZA
welsh@coleggwent.ac.uk
01495 333710
Coleg Gwent
Campws Crosskeys
Heol Rhisga
CrossKeys
NP11 7ZA
welsh@coleggwent.ac.uk
01495 333710
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Esther Attree fel Tiwtor Cymraeg llawn amser i Heddlu Gwent, gan gryfhau ymhellach y ddarpariaeth Cymraeg Gwaith ar gyfer y sector Cyfiawnder, Trosedd a Diogelwch yng Nghymru.
Ymunodd Esther â Dysgu Cymraeg Gwent fel Darlithydd llawn amser wedi’i lleoli ym Mhencadlys Heddlu Gwent gyda nod clir: sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio’n hyderus ym myd plismona bob dydd ledled Gwent.
Yn wreiddiol yn athrawes gynradd, mae Esther wastad wedi bod yn angerddol dros weld dysgwyr yn magu hyder. Yn ddiweddarach, bu’n cefnogi ac yn hyfforddi athrawon i addysgu Cymraeg yn fwy hyderus yn yr ysgolion, gan weld sut y gall iaith drawsnewid cymuned gyfan pan gaiff ei defnyddio’n naturiol ac yn frwdfrydig.