Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sgiliau Cymraeg

Un llwybr clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg
Sgiliau Cymraeg

Pan fydd rhywun yn dysgu Cymraeg, mae’n ddefnyddiol cael un llwybr clir i’w ddilyn.

Mae cyfres o gamau ar hyd y llwybr sy’n arwain o un lefel i’r nesaf – o ddechreuwyr i siaradwyr hyderus.

Mae cyrsiau, gweithgareddau ac adnoddau ar gael i’ch cefnogi chi bob cam o’r daith.

Y Llwybr Dysgu Cymraeg a’r CEFR

Mae’r llwybr Dysgu Cymraeg yn cyd-fynd â’r CEFR (Common European Framework of Reference for Languages – Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd), fframwaith rhyngwladol sy’n cael ei ddefnyddio ledled y byd i ddisgrifio sgiliau iaith.

Mae’r fframwaith yn ein helpu ni i ddeall ble ’dyn ni ar ein taith ieithyddol, a sut i symud ymlaen i’r lefel nesaf.

Dyma’r lefelau Dysgu Cymraeg (a’r lefel CEFR cyfatebol mewn cromfachau):

- Mynediad (A1)

- Sylfaen (A2)

- Canolradd (B1)

- Uwch (B2)

Y Llwybr Dysgu Cymraeg a’r CEFR

Cynhadledd 4 Rhagfyr 2025

Diolch i bawb am ymuno â ni yng nghynhadledd ‘Un llwybr dysgu clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg – cefnogi dysgwyr o bob oed'.

Mae modd gwylio'r sesiynau i gyd ar ffurf rhestr chwarae ar YouTube isod, a gallwch hefyd glicio'r ddolen i ddarllen copi o raglen y dydd. 

Tabl y Lefelau - Un llwybr clir ar gyfer dod yn siaradwr Cymraeg

Edrychwch ar y tabl isod i weld disgrifiad o’r sgiliau ar bob lefel: