Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn i ni ddeall mwy am eich anghenion:
Ffurflen Cofrestru Academi Cymraeg Gwaith
Rydym yn falch o gyhoeddi Academi Cymraeg Gwaith ar ein platfform dysgucymraeg.cymru.
Bydd Academi Cymraeg Gwaith yn darparu hyfforddiant, arweiniad a chefnogaeth i Gyflogwyr, er mwyn sicrhau dealltwriaeth ar gynllunio a chynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu.
Cwblhewch y ffurflen isod er mwyn i ni ddeall mwy am eich anghenion:
Ffurflen Cofrestru Academi Cymraeg Gwaith
Rhan 1: Pam cynnig gwasanaeth dwyieithog wrth gynnal digwyddiadau a chadeirio cyfarfodydd? -Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg -Trafod yr hyn rydym yn ei ystyried i fod yn ddigwyddiad / cyfarfod -Diffinio “dwyieithog” -Myfyrio ar arferion iaith sy’n gynhwysol
Rhan 2: Sut y mae mynd ati i gynllunio a darparu yn ddwyieithog? -Ystyried y broses gyfan (o’r cynllunio i gynnal digwyddiad dwyieithog -Rhoi sylw i ddigwyddiadau wyneb yn wyneb a rhithiol -Cyfieithu ar y pryd ac offer -Rhannu egwyddorion cadeirio dwyieithog effeithiol
Rhan 3: Beth yw’r rhwystrau a’r heriau? -Astudiaeth achos -Problemau cyffredin a sut i’w datrys -Adnabod y gwahanol rolau wrth annog mwy o Gymraeg (Cadeirydd / Trefnydd / Mynychwr)
Rhan 4: Rhoi’r cysyniadau ar waith -Beth allaf i ei wneud? Rôl i bawb o fewn y sefydliad -Datblygu geirfa ac ymadroddion dwyieithog ar gyfer cyfarfodydd -Canllawiau arfer da |
9:30 – 12:00 - Dydd Mercher, Mai 15fed |
9:30 – 12:00 – Dydd Iau, Mehefin 6ed |
9:30 – 12:00 – Dydd Mawrth, Mehefin 25ain |
Cynllunio a Rheoli Gweithleoedd Cymraeg a Dwyieithog (trwy gyfrwng y Gymraeg) |
Sesiwn 1: Chwefror 21ain, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Pam cynllunio ar gyfer gweithlu Cymraeg a dwyieithog?
|
Sesiwn 2: Mawrth 5ed, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Cynllunio ar gyfer rhaglen hyfforddiant iaith Gymraeg
|
Sesiwn 3: Mawrth 12fed, 2024 9:30 – 12:30 (Rhithiol ar Zoom) Gweithredu Rhaglen Hyfforddiant Iaith Gymraeg
|