Gwarchodwr plant cofrestredig, Wrecsam. Rheswm Debra dros dderbyn hyfforddiant Camau oedd dod yn fwy gweithgar gyda’i Chymraeg.
“Ar ôl astudio Cymraeg Lefel O yn yr ysgol uwchradd ac yna defnyddio llawer o’r Gymraeg yn fy swydd flaenorol yn gweithio mewn Ysgol Gynradd, roedd gen i wybodaeth dda yn barod ond ni ddefnyddiais yr iaith yn aml fel roeddwn i eisiau/angen. Dw i wir yn mwynhau siarad Cymraeg.”
Eglurodd Debra mai ei phrif her yw sillafu geiriau Cymraeg.
“Fy nod yw gallu ysgrifennu brawddeg yn y Gymraeg… Rwy’n teimlo fel bod hyn yn hynod o sialens gan na chefais fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, felly ni chefais erioed fy nhrochi yn yr Iaith. Byddai hyn wedi ei gwneud hi’n haws i mi fod yn rhugl, fodd bynnag rwy’n fwy na galluog gyda fy ngwybodaeth a’r hyfforddiant Camau i allu siarad gyda’r plant."