Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Camau

Cynllun Camau

"Gan fod cynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol i’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr, mae angen sicrhau cynllun cydlynus ar gyfer datblygu’r gweithlu hollbwysig hwn."

Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Camau

Cyrsiau Cymraeg Gwaith pwrpasol ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yw Cyrsiau Camau. Rydym yn darparu’r cyrsiau trwy ddull hunan-astudio a ‘rydym bellach yn cynnig cwrs 60 awr o hyd lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. Mae’r cwrs yn cynnwys y pynciau sydd yn y rhestr isod:

 

Mynediad Sylfaen Canolradd
  • deall ymadroddion o ddydd i ddydd syml
  • trafod dyddiau'r wythnos a'r tywydd
  • rhoi gorchmynion uniongyrchol a chyfarwyddiadau syml
  • trafod teimladau a dymuniadau
  • trafod hoffterau a chas bethau
  • cyfrif a defnyddio rhifau
  • trafod lliwiau a siapiau
  • siarad am y gorffennol
  • trafod yr amser
  • trafod digwyddiadau yn y dyfodol
  • trafod y tywydd yn y presennol, y gorffennol a'r dyfodol
  • gofyn ac ateb cwestiynau am fyd natur a chwarae yn yr awyr agored
  • trafod gofalu am anifeiliaid
  • gofyn ac ateb cwestiynau am deithio
  • trafod bwyd a diod
  • gofyn ac ateb cwestiynau am hoff bethau
  • trafod ble dych chi ac eraill yn mynd
  • rhoi gorchmynion  
  • cymharu pobl a phethau
  • rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer arferion bob dydd mewn lleoliad gofal plant
  • disgrifio sut i wneud rhywbeth a disgrifio teimladau
  • trafod chwarae gyda thywod a dŵr
  • trafod y pethau mae plant yn eu gweld o’u cwmpas
  • trafod gwrthrychau (e.e., teganau) wrth chwarae
  • trafod gwneud lluniau a phaentio
  • rhoi cyngor
  • mynegi barn, gan roi rhesymau pwysleisio gwybodaeth
  • trafod beth sy wedi digwydd i ni
Sgiliau Newydd

Am restr llawn o’r sgiliau newydd y byddwch yn ei ddysgu ar y cwrs, dewiswch y dolenni isod:

Disgwylir i bob dysgwr gyflawni tua un Uned yr wythnos. Dylai'r cwrs gymryd tua 30 wythnos i'w gwblhau. Bydd cefnogaeth ar gael i bob dysgwr gan eich sefydliad. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â camau@dysgucymraeg.cymru  neu ewch i wefan Cwlwm er mwyn cysylltu gyda nhw.

Ydy’r cwrs yma yn addas i mi ?

Os nad ydych yn siŵr os ydych ar y lefel gywir i’r cyrsiau Sylfaen neu Ganolradd cymerwch olwg ar y diffiniadau canlynol cyn ymrwymo.

Astudiaethau Achos Camau

Tystlythyr gan ddysgwr Camau - Victoria McAllister. Gwarchodwr plant cofrestredig, Rhondda Cynon Taf.
Credai Victoria bod hyfforddiant Camau yn cyd-fynd yn dda â'i diwrnod gwaith. Roedd cael mynediad rhithiol hyfforddiant, ar adeg a oedd yn gyfleus, gyda'r hyblygrwydd i weithio drwy'r unedau ar gyflymder a oedd yn gweithio iddi yn gwneud yr hyfforddiant yn hylaw. Mae'r cynnwys yn berthnasol i ddarpariaeth Victoria ac mae'r ddogfen awgrymiadau gorau, i'w lawrlwytho ar gyfer pob uned yn "ardderchog" ac yn dda i'w brintio ac yn ysgogiad gweledol yn ymarferol.
Victoria McAllister. Gwarchodwr plant cofrestredig, Rhondda Cynon Taf.
Cyngor Victoria i’r rhai sy’n ystyried dilyn yr hyfforddiant fyddai: “Cymerwch eich amser. Argraffwch ac amlygwch ymadrodd y dydd a chreu cyfleoedd i'w ddefnyddio gyda'r plant. Peidiwch â digalonni os na allwch gofio popeth. Ymarferwch bob dydd gyda'r plant a'i wneud yn hwyl”.
Enw'r lleoliad: Clwb Cywion ar ôl ysgol - Emma Tasker. Uwch Weithiwr Chwarae.
Mae Emma yn hoff o ba mor hawdd yw Camau i’w ddefnyddio a’r ailadrodd arno, ac erbyn hyn mae'n "defnyddio popeth a roddodd y cwrs iddi". Byddai Emma yn argymell CAMAU ac yn dweud: "Mae'r cwrs Camau yn wych am ei fod yn dysgu geiriau ac ymadroddion ichi y byddwch yn eu defnyddio yn eich lleoliad gofal plant! Mae yna lwyth o fideos i helpu gydag ynganiad ac mae o hyd yn oed yn egluro treigladau."
Sefydliad: Busy Bugs. Busy Bugs.
Amser yma flwyddyn ddiwethaf, doedden ni ddim yn defnyddio llawer o Gymraeg, dim ond ychydig o arwyddion a 1 neu 2 o ganeuon. Rydym ni nawr yn defnyddio’r iaith llawer fwy. Rydym yn cyfarch ein gilydd yn Gymraeg, yn ofyn sut dych chi ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda phlant yn Gymraeg. Rydym nawr yn sgwrsio yn Gymraeg gyda theuluoedd, mae ein gwaith i gyd yn ddwyieithog gan gynnwys unrhyw ohebiaeth rydym yn danfon adref.
Grŵp Chwarae Dwyieithog Aberporth. Aberporth Bilingual Playgroup.
Cyn cychwyn ar brosiect Camau fe ddefnyddion ni'r Gymraeg yn bennaf yn ein caneuon ac i ddarllen straeon. Roeddwn yn ei ddefnyddio mewn ffordd syml iawn i ddysgu'r plant. Fodd bynnag, ers cwblhau Lefel 2 ar brosiect Camau mae wedi gwella'r Gymraeg yn cael ei defnyddio a'i gweithredu'n sylweddol, ar lefel bersonol, fel tîm ac yn y gweithgareddau rydym yn ei ddarparu. Erbyn hyn rwy'n gallu siarad Cymraeg gyda llawer mwy o hyder, a dealltwriaeth ddyfnach o'r iaith.
Tystlythyr gan ddysgwr Camau – Debra Hughes.

Gwarchodwr plant cofrestredig, Wrecsam. Rheswm Debra dros dderbyn hyfforddiant Camau oedd dod yn fwy gweithgar gyda’i Chymraeg.

“Ar ôl astudio Cymraeg Lefel O yn yr ysgol uwchradd ac yna defnyddio llawer o’r Gymraeg yn fy swydd flaenorol yn gweithio mewn Ysgol Gynradd, roedd gen i wybodaeth dda yn barod ond ni ddefnyddiais yr iaith yn aml fel roeddwn i eisiau/angen. Dw i wir yn mwynhau siarad Cymraeg.”

Eglurodd Debra mai ei phrif her yw sillafu geiriau Cymraeg.

“Fy nod yw gallu ysgrifennu brawddeg yn y Gymraeg… Rwy’n teimlo fel bod hyn yn hynod o sialens gan na chefais fy magu mewn awyrgylch Cymraeg, felly ni chefais erioed fy nhrochi yn yr Iaith. Byddai hyn wedi ei gwneud hi’n haws i mi fod yn rhugl, fodd bynnag rwy’n fwy na galluog gyda fy ngwybodaeth a’r hyfforddiant Camau i allu siarad gyda’r plant."

logo Camau