Cwestiynau cyffredinol
A oes rhaid i'r cyflogwr neu'r gweithiwr dalu am yr hyfforddiant Cymraeg Gwaith?
Na, mae Cymraeg Gwaith wedi ei ariannu'n llawn. Nid oes cost am yr hyfforddiant.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer hyfforddiant Cymraeg Gwaith?
Unrhyw un sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector neu'r sector fusnes yng Nghymru.
Ble mae'r hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Mae Cymraeg Gwaith yn hollol hyblyg. Gall hyfforddiant gael ei gynnal ar-lein, gallwch ymuno â dosbarthiadau yn y gweithle neu gallwch gofrestru ar gwrs preswyl.
Faint o amser fydd angen i weithwyr neilltuo ar gyfer yr hyfforddiant?
Mae hyn yn dibynnu ar y cynllun hyfforddi a ddewiswch.
Mae'r cwrs hyfforddi ar-lein sylfaenol yn rhedeg am 10 awr gyda gweithwyr yn gallu mynd mewn ac allan o'r hyfforddiant ar adegau sy'n gyfleus iddyn nhw.
Gallwch ddewis y cyrsiau dysgu fydd yn cael eu dysgu yn wythnosol (lleiafswm yw 2 awr yr wythnos) ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi. Gofynnir am ymrwymiad i ddysgu un lefel gyfan o leiaf (sy’n 120 awr).
Gallwch ddilyn y cwrs preswyl am 5 diwrnod.
Mae’r amser a neilltuir i Cymraeg Gwaith yn gwbl hyblyg.
Tan bryd fydd Cymraeg Gwaith yn rhedeg?
Ar hyn o bryd, mae Cymraeg Gwaith yn cael ei ariannu tan 31 Mawrth 2023.
A oes terfyn ar nifer y gweithwyr sy'n gallu cael mynediad at hyfforddiant Cymraeg Gwaith o fewn un sefydliad?
Na, ddim o gwbwl, rydym yn croesawu unrhyw nifer o geisiadau o fewn un sefydliad.