Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynllun Camau Gofal Cymdeithasol

Gwybodaeth am gynllun Camau Gofal
Cwrs Dysgu Cymraeg - Lefel Mynediad (rhan 1)

Rydym yn cynnig cwrs hunan-astudio ar-lein ar lefel Mynediad ar gyfer staff sydd yn gweithio yn y maes Gofal (addas i ddechreuwyr, a rhai sydd wedi cwblhau Cyrsiau Blasu). Mae'r cwrs wedi'i ariannu'n llwyr a bydd yn cynnwys:

  • Tua 60 awr o ddysgu annibynnol;
  • Dysgu Cymraeg ar gyfer Gofalwyr i'w ddefnyddio gyda chleifion;
  • Ynganu'r Wyddor, lliwiau, dyddiau'r wythnos a rhifo;
  • Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad;
  • Dysgu patrymau i ofyn ac ateb cwestiynau;
  • Dysgu'r amser;
  • siarad amdanoch chi'ch hun ac eraill;
  • Siarad am gynlluniau claf;
  • Dweud beth mae pobl wedi/ yn ei wneud;
  • Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiad.

 

Disgwylir i bob dysgwr gyflawni tua un Uned yr wythnos. Dylai pob rhan o’r cwrs (bydd 3 rhan i gyd) gymryd tua 10 wythnos i'w gwblhau.

Dewiswch ddolen y cwrs isod:

Camau - Gofal Cymdeithasol Cymru – (Fersiwn y Gogledd)

Camau - Gofal Cymdeithasol Cymru – (Fersiwn y De)

Camau Gofal