Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Codi Hyder 

Iechyd a Gofal

Gwybodaeth

Siarad Cymraeg ond eisiau mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith?

Mae'r Ganolfan yn cydweithio gyda sefydliadau iechyd ar draws Cymru i gynnig cynllun hyblyg wedi ei deilwra i'ch anghenion chi.

Pwrpas y sesiynau hyn ydy newid arferiad ieithyddol a chodi hyder siaradwyr llai parod neu sydd â llai o hyder, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fyddent fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.

Y brif gynulleidfa ar gyfer y cynllun yw unigolion sy’n gallu siarad Cymraeg eisoes e.e. wedi eu magu yn y Gymraeg neu wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ond am amrywiol resymau angen hwb i’w hyder i wneud defnydd dyddiol o’r iaith.

Cynnwys y cynllun

Mae tîm o diwtoriaid Iechyd a Gofal ar gael i'ch helpu i ddatblygu eich hyder i siarad Cymraeg yn y gwaith. 

  • Holiadur a sgwrs gychwynnol i ddeall pam dych chi wedi colli hyder yn y Gymraeg
  • Sesiynau Mentora Iaith un i un dros gyfnod o dri mis
  • Sesiynau ôl-ofal ar ddiwedd y cynllun
  • Cyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg mewn grwpiau paned a sgwrs 
  • Cymorth wedi ei deilwra i chi – e.e. geiriau a brawddegau dych chi eu hangen yn y gwaith 
  • Cefnogaeth gan eich cyflogwr i gymryd rhan yn y cynllun

Eisiau gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael yn eich sefydliad chi? Dewiswch y botwm isod er mwyn cysylltu.

Pam dilyn cwrs codi hyder?

Cyrsiau codi hyder Nant Gwrtheyrn

Mae cyrsiau preswyl ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd a gofal yng Nghymru wedi eu trefnu yn Nant Gwrtheyrn:

  • 6-10 Hydref 2025
  • 24-28 Tachwedd 2025

Mae'r cyrsiau am ddim, ac yn addas i weithwyr sy'n gallu siarad Cymraeg ar lefel Sylfaen a Chanolradd.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cofrestru diddordeb

Eisiau gwybodaeth am gyrsiau codi hyder yn eich bwrdd iechyd, neu yn Nant Gwrtheyrn? Llenwch y ffurflen isod er mwyn cysylltu. 

Ffurflen