Mae'r Ganolfan yn cydweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu gofal.
Mae cyrsiau ar-lein a chefnogaeth tiwtoriaid Cymraeg ar gael.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.
Mae'r Ganolfan yn cydweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu gofal.
Mae cyrsiau ar-lein a chefnogaeth tiwtoriaid Cymraeg ar gael.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.
Croeso i'r cam cyntaf o ddysgu Cymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector iechyd a gofal.
Mae'r cwrs byr yma yn cynnwys geiriau a chyfarchion syml i bobl sy'n newydd i'r Gymraeg, a gobeithio y bydd yn eich annog i ddysgu mwy.
Mae Strategaeth Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob gweithiwr yn y sector iechyd a gofal fod â lefel cwrteisi o Gymraeg erbyn 2027.
Mae creu gofod a chyfle i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru yn hollbwysig, ac mae siarad hyd yn oed ambell air yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddefnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd.
Felly ewch amdani a cychwynnwch eich taith iaith yma!
Cwrs Croeso o dan arweiniad tiwtor
Cynhelir Seisynau Croeso rheolaidd ar-lein gan diwtoriaid profiadol. Plis cysylltwch gyda ni am wybodaeth ynghylch y sesiynau nesaf.
Neu, os hoffech drefnu Cwrs Croeso penodol yn eich gweithle chi neu ar-lein, plis cysylltwch a ni iechydagofal@dysgucymraeg.cymru
Cwrs Croeso Digidol (hunan-astudio)
I gael mynediad at y cwrs croeso digidol i'w ddilyn yn eich amser eich hun, dilynwch y ddolen isod:
Cyrsiau hunan-astudio ar-lein ar lefel Mynediad a Sylfaen.
Dewiswch y botwm isod er mwyn dilyn y cyrsiau.