Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Nant Gwrtheyrn

Iechyd a Gofal
Cyrsiau Nant Gwrtheyrn

Cyfle i staff Iechyd a Gofal yng Nghymru dreulio pum diwrnod ar gwrs Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn, Pen Llŷn.

Dyddiadau nesaf:

  • 7-11 Hydref 2024
  • 10-14 Mawrth 2025
Cynnwys y cwrs

Ymarfer

Mae'r cwrs ar gyfer pobl sy'n gallu siarad Cymraeg ar lefel Canolradd ac Uwch, ond sydd eisiau ymarfer a magu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.  Bydd gweithdai gyda thiwtoriaid arbenigol, a digon o gyfleoedd i fwynhau ymarfer siarad Cymraeg. 

Ymlacio

Bydd rhaglen o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg i gefnogi'r dysgu, gan gynnwys ioga a meddwlgarwch, cerddoriaeth gyda'r nos a theithiau cerdded ar hyd yr arfordir. 

Mwy o wybodaeth

  • Mae'r cyrsiau am ddim i staff Iechyd a Gofal yng Nghymru
  • Lluniaeth llawn a llety mewn ystafell sengl en-suite
  • Cwrs o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Tiwtoriaid profiadol a chefnogol

Byddwn yn trefnu sgwrs anffurfiol dros y ffôn cyn y cwrs, i sicrhau eich bod yn cofrestru ar y lefel gywir.

Bydd y cwrs yn gorffen am 1yp ddydd Gwener.  Dych chi'n gallu aros y nos Sul cyn i'r cwrs gychwyn, am gost o £60 gwely a brecwast.

Blas o gwrs Codi Hyder Iechyd a Gofal, Nant Gwrtheyrn

Cofrestru diddordeb

Eisiau gwybodaeth am Gyrsiau Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg yn Nant Gwrtheyrn? Llenwch y ffurflen isod er mwyn cysylltu. 

Ffurflen