Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Niwrowahaniaeth

Gweithio yn y maes yma ac eisiau dysgu Cymraeg?
Niwrowahaniaeth

Dych chi’n gweithio ym maes Niwrowahaniaeth yng Nghymru?

Dych chi eisiau dysgu ychydig o Gymraeg i’w defnyddio yn y gwaith?

Fel rhan o Gynllun Iechyd a Gofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae cyrsiau dysgu Cymraeg newydd wedi eu creu i gefnogi’r gweithlu niwrowahaniaeth yng Nghymru.

Beth sy ar gael?

Dych chi’n siaradwr newydd?

’Dyn ni’n cynnig cyrsiau blasu 1 awr a 10 awr.

Dych chi’n siarad rhywfaint o Gymraeg?

'Dyn ni’n cynnig sesiynau Codi Hyder, i bobl sy heb ddefnyddio’r Gymraeg ers tro, ond sy eisiau mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith yn y gwaith.

Cysylltu â ni

Eisiau cymorth? 

Anfonwch e-bost at iechydagofal@dysgucymraeg.cymru

Mwy o wybodaeth

Mae’r cynlluniau Niwrowahaniaeth a Dementia yn rhan o ddarpariaeth ehangach y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gefnogi’r gweithlu iechyd a gofal i ddatblygu sgiliau a hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith.  Trwy gydweithio’n agos â’r sector i gynllunio darpariaeth hyblyg a phwrpasol, sy’n ymateb i anghenion y gweithlu, mae’r rhaglen yn gam pwysig tuag at nod Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru.