Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Defnyddio Nant Gwrtheyrn

Defnyddio Nant Gwrtheyrn
Gwybodaeth

Darperir y cyrsiau hyn yn bennaf er mwyn gwella hyder a hyfedredd y gweithlu yng Nghymru fel eu bod yn gallu dychwelyd i’r gweithle’n teimlo’n fwy hyderus ac abl i fynd ati i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwaith dyddiol.

Gwybodaeth am cyrsiau Defnyddio Cymraeg Gwaith

Mae’r cyrsiau ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith yn gyrsiau pum niwrnod sy'n canolbwyntio ar godi hyder er mwyn cynyddu'r defnydd o Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt. Mae'r cyrsiau yn cael eu cynnig fel cyrsiau preswyl a chyrsiau rhithiol ar lefel Canolradd, Uwch, Gloywi - Siarad a Gloywi - Ysgrifennu. 

-5 niwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener

-Wedi eu lleoli yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn (LL536NL)

-Tiwtor profiadol fydd yn rhoi arweiniad, cyngor a chymorth i chi drwy’r wythnos

-Llety mewn ystafell sengl en-suite wedi ei gynnwys

-Lluniaeth llawn o frecwast, cinio a swper wedi ei gynnwys

-Noson o adloniant ar y nos Fawrth 

-Ymweliadd ag atyniad lleol ar y prynhawn Mercher 

-Cwrs yn gorffen am  1 o'r gloch ar y dydd Gwener er mwyn rhoi digon o amser i chi deithio adref

-Cynhelir sgwrs dros y ffôn er mwyn sicrhau cofrestriad ar y lefel gywir

-Y cyfan wedi ei gyllido'n llawn

-*Opsiwn i archebu noson ychwanegol o lety ar gyfer nos Sul cyn y cwrs am gost o £55 (gwely a brecwast)                                                                         

- 5 niwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener

- Rhwng 10:00 a 16:00 bob diwrnod

- Dosbarthiadau rhithiol dros Zoom

- Tiwtor profiadol fydd yn rhoi arweiniad, cyngor a chymorth i chi drwy’r wythnos

- Cynhelir sgwrs dros y ffôn er mwyn sicrhau cofrestriad ar y lefel gywir

- Wedi eu cyllido’n llawn

Gallwn gynnal cyrsiau sectorol ar gyfer lleiafrif o 8 (mwyafrif o 14) o'r un gweithle neu sefydliad ar lefel Canolradd, Uwch, Gloywi – Ysgrifennu neu Gloywi – Siarad.  Byddai’n rhaid i ni asesu lefel pob unigolyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod pawb ar yr un lefel. Cysylltwch os hoffech fwy o wybodaeth.

CYRSIAU HAF - 2024

Dyddiad / Date

Lefel/Level

Preswyl (Residential) /Rhithiol (Virtual)

03/06/2024 – 07/06/2024

Gloywi – Ysgrifennu / Proficiency – Writing

Preswyl / Residential

 24/06/2024 – 28/06/2024

Canolradd / Intermediate

 Preswyl / Residential

 15/07/2024 – 19/07/2024

Gloywi – Siarad / Proficiency – Speaking

 Preswyl / Residential

 15/07/2024 – 19/07/2024

Canolradd / Intermediate

Rhithiol / Virtual

22/07/2024 – 26/07/2024

Uwch / Advanced

 Preswyl / Residential

02/09/2024 – 06/09/2024

 Gloywi – Ysgrifennu / Proficiency – Writing

Preswyl / Residential

09/09/2024 – 13/09/2024

Uwch / Advanced

 Preswyl / Residential

 16/09/2024 – 20/09/2024

Canolradd / Intermediate

 Preswyl / Residential

23/09/2024 – 27/09/2024

Dechrau Defnyddio dy Gymraeg Gwaith (Sylfaen)  / Start Using your Work Welsh (Foundation)

 Preswyl / Residential

23/09/2024 – 27/09/2024

Uwch / Advanced

Rhithiol / Virtual

30/09/2024 – 04/10/2024

Gloywi - Siarad / Proficiency – Speaking

Preswyl/ Residential

Profiad dysgwr yn Nant Gwrtheyrn

Deilliannau Cyrsiau ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith

-Yn medru sgwrsio yn Gymraeg mewn amgylchedd cefnogol

-Wedi adnabod ac yn medru defnyddio geirfa sy’n berthnasol i’ch gwaith

-Yn meddu ar eirfa i fedru cyfrannu’n ddigonol mewn cyfarfodydd dwyieithog

-Yn medru defnyddio adnoddau cefnogi technegol e.e. Cysgliad a geiriaduron ar-lein

-Yn deall y gwahaniaeth rhwng cyweiriau iaith ffurfiol ac anffurfiol

-Yn medru cynnal cyflwyniad syml ar bwnc sy’n gyfarwydd i chi

-Yn fwy hyderus wrth ysgrifennu Cymraeg syml

- Yn medru sgwrsio yn hyderus yn Gymraeg mewn amgylchedd anffurfiol 

- Yn medru defnyddio iaith ffurfiol ac anffurfiol mewn gwahanol sefyllfaoedd

- Yn medru cynnal cyflwyniadau estynedig ar bynciau amrywiol

- Yn medru darparu cyflwyniadau ysgrifenedig yn ymwneud â’ch gwaith

- Yn fwy hyderus gyda materion gramadegol ac yn gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth a chymorth

- Wedi adnabod ac yn medru defnyddio geirfa estynedig sy’n berthnasol i’ch gwaith gan gynnwys rhywfaint o dermau technegol

- Yn medru defnyddio adnoddau cefnogi technegol e.e. Cysgliad a geiriaduron ar-lein

- Yn medru ysgrifennu e-byst at gydweithwyr eraill ac ysgrifennu adroddiadau byr

- Yn fwy hyderus wrth ofyn ac ateb cwestiynau yn gywir yn y Gymraeg

 

- Yn fwy hyderus wrth weithredu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg

- Yn fwy hyderus o’ch gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gywir mewn gwahanol gyd-destunau a chyweiriau

- Yn fwy hyderus wrth drafod pynciau sy’n ymwneud â’r gwaith ar lafar

- Yn fwy hyderus i gyflwyno a chyfrannu mewn cyfarfodydd yn Gymraeg gan ddefnyddio iaith gywir a safonol

- Yn deall ac yn medru defnyddio rheolau gramadegol yn hyderus er mwyn cyfoethogi eich iaith lafar

- Yn medru defnyddio adnoddau cefnogi technegol e.e. Cysgliad a geiriaduron ar-lein yn briodol ac yn effeithiol

- Yn fwy hyderus wrth weithredu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg

- Yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig yn gywir mewn gwahanol gyd-destunau a chyweiriau

- Yn fwy hyderus wrth ysgrifennu e-byst, erthyglau, datganiadau ac adroddiadau yn Gymraeg

- Yn deall ac yn medru defnyddio rheolau gramadegol yn hyderus er mwyn cyfoethogi eich iaith ysgrifenedig

- Yn medru defnyddio adnoddau cefnogi technegol ar ôl dychwelyd i’r gwaith e.e. Cysgliad a geiriaduron ar-lein yn briodol ac yn effeithiol

Cyrsiau Preswyl Cymraeg Gwaith

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnig ar dair lefel

Prif nod y cyrsiau ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith yw rhoi cyfle i bawb sy’n dymuno gwella eu sgiliau yn y Gymraeg ennill hyder wrth eu defnyddio.

Bydd pobl sydd ar y cwrs hwn yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau fel bod eu Cymraeg yn llifo’n fwy naturiol wrth siarad yr iaith.

-Cyfle i chi siarad a sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch bositif a chefnogol
-Geirfa a geiriau technegol ar gyfer y gweithle
-Cyfle i ymarfer
-Iaith cyfarfodydd
-Cefnogaeth ar lein fel Cysill a’r Ap Geiriaduron
-Cywair iaith - anfon neges destun neu e-bost at gydweithwyr
-Rhoi cyfarwyddiadau, trefnu a chynnal prosiectau yn y Gymraeg
-Defnyddio’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol i ymarfer eich Cymraeg
-Materion sy’n gallu codi ychydig bach o ofn, fel treigliadau, ffurfiau gwrywaidd neu fenywaidd, arddodiaid ac ati.

Mae’r cwrs hwn yn benodol ar gyfer pobl sydd eisoes yn teimlo’n eithaf cyffyrddus yn siarad Cymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol ac anffurfiol ond sydd angen cymorth a chefnogaeth wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy effeithiol yn y gweithle.

-Iaith ffurfiol ac anffurfiol mewn gwahanol sefyllfaoedd
-Ymarfer cyflwyno ar lafar ac ar bapur
-Cywirdeb a dod o hyd i atebion i gwestiynau ieithyddol
-Termau technegol sy’n cael eu defnyddio mewn gweithleoedd Cymraeg a dwyieithog
-Y gefnogaeth mae technoleg yn gallu ei gynnig i chi wrth i chi ysgrifennu yn y Gymraeg
-Ysgrifennu nodiadau, e-byst ac adroddiadau byr at gydweithwyr ac eraill
-Cynnal cyfweliadau a rhoi cyflwyniadau yn y Gymraeg
-Materion ieithyddol fel rhifo a gosod pethau mewn trefn, y treigliadau, amseroedd berfau ac ati
-Gofyn ac ateb cwestiynau yn gywir
-Deall sut y gallwch chi helpu eich hunain wrth wella’ch sgiliau ieithyddol.

Anelir y Cwrs Gloywi’n benodol at bobl sydd eisoes yn teimlo’n gyffyrddus yn gyffredinol wrth ddefnyddio’r Gymraeg ond sydd angen datblygu eu sgiliau ymhellach wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn fwy ffurfiol unai ar lafar neu’n ysgrifenedig yn y gweithle.

Darperir dau gwrs gwahanol ar lefel Gloywi. Bydd un cwrs yn cynnig cyfuniad o fireinio sgiliau llafar a sgiliau wrth ysgrifennu. Bydd yr ail gwrs yn canolbwyntio’n fwy manwl ar wella sgiliau ysgrifenedig er bydd peth sylw’n cael ei roi i sgiliau siarad yn ffurfiol hefyd.

Os ydych yn ansicr ynghylch pa gwrs i gofrestru ar ei gyfer, cysylltwch â ni drwy e-bostio cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org

Nant Gwrtheyrn

Fideo Nant Gwrtheyrn