Gwobr Cymraeg Gwaith 2021: Dysgwr sydd wedi gwneud y cynnydd gorau ar lefelau Sylfaen+
ENILLYDD: Mariolina Lai, Dysgwr Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion
Mae Mariolina wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy Gynllun Cymraeg Gwaith Cyngor Ceredigion ers 2018, ac mae bellach ar lefel Canolradd ac yn parhau i wneud cynnydd arbennig. Daw Mariolina o’r Eidal yn wreiddiol, ac allan o gariad a pharch at y diwylliant Cymraeg, fe dyngodd lw ei dinasyddiaeth Brydeinig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae astudio’r Gymraeg yn llawenydd i Mariolina. O’r wers gyntaf, ymhyfrydodd yn yr iaith, a daw i bob gwers yn frwdfrydig gan godi hwyliau’r dosbarth yn wythnosol. Mae Mariolina hefyd yn cymryd mantais o weithgareddau anffurfiol y Cynllun, megis y Clwb Cinio. A hithau’n Gynorthwyydd Gofal Dydd, mae llwyddiannau Mariolina i ddysgu’r Gymraeg yn bellgyrhaeddol eu dylanwad, ac mae’n sicrhau gofal o’r safon flaenaf i drigolion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith wedi galluogi Mariolina i wireddu ei huchelgais o fyw yn y Gymraeg, a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
2il: Natalie Roberts, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Aberystwyth)
Dechreuodd Natalie ddysgu Cymraeg rai blynyddoedd yn ôl yn dilyn symud i Gymru. Mae’n gweithio fel Swyddog Allgymorth Busnes a Gwyddoniaeth Ffisegol, ac mae’n treulio oriau bob dydd yn ymarfer y Gymraeg. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi dysgu geirfa a strwythurau iaith cymhleth mewn cyfnod byr er mwyn creu ystod eang o ddeunyddiau gwyddonol ar-lein ar gyfer plant o bob oed. Mae’n sicrhau bod gwefan ei hadran yn ddwyieithog, ac mae wedi cynnal ymweliadau ysgol a gwersi yn ddwyieithog. Mae Natalie wedi, ac yn parhau, i wneud cynnydd arbennig yn ei sgiliau Cymraeg.
3ydd: Linda Bailey, Dysgwr Cymraeg Gwaith Addysg Uwch (Prifysgol Caerdydd)
Dechreuodd Linda ddysgu drwy’r Cynllun Cymraeg Gwaith ar lefel Sylfaen ym mis Mehefin 2020, yn dilyn dysgu ei hun at y lefel honno. Mae ei chynnydd ers hynny wedi bod yn syfrdanol. O’r cychwyn cyntaf, mae wedi dangos blaengaredd wrth ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg, a gall sgwrsio’n hyderus ac yn ddiddorol erbyn hyn. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn, ac yn benderfynol o feistroli’r iaith, ac mae hefyd wedi manteisio ar weithgareddau anffurfiol fel y Clwb Darllen yn wythnosol ac yn ddi-ffael.