Yn osgystal ag astudio Cymraeg ar gyfer TGAU, Lefel Uwch Gyfrannol, neu Safon Uwch, mae opsiynau Dysgu Cymraeg ychwanegol ar gael i rai 16+ oed.
Un opsiwn ydy sesiynau rhithiol hwyliog ac ysgafn er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg.
- Sesiynau byrion, wythnosol
- Sesiynau rhithiol dan arweiniad tiwtor
- Dysgu mewn grŵp gyda phobl ifanc eraill
- Canolbwyntio ar sgiliau Cymraeg defnyddiol
- Tystysgrif cwblhau - da i'r CV a ffurflenni cais swyddi/astudio pellach
Bydd y cyrsiau nesaf yn dechrau ym Mis Hydref 2025.