Yn osgystal ag astudio Cymraeg ar gyfer TGAU, Lefel Uwch Gyfrannol, neu Safon Uwch, mae opsiynau Dysgu Cymraeg ychwanegol ar gael i rai 16-25 oed sy'n astudio mewn ysgolion.
Opsiynau i ddisgyblion ysgol 16-25 oed

Datblygu sgiliau Cymraeg
Un opsiwn ydy sesiynau rhithiol hwyliog ac ysgafn er mwyn codi hyder i ddefnyddio dy sgiliau Cymraeg.
- Sesiynau byrion, wythnosol
- Sesiynau rhithiol dan arweiniad tiwtor
- Dysgu mewn grŵp gyda phobl ifanc eraill
- Does dim isafswm nifer o fewn dy ysgol
- Sesiynau ar y cyd rhwng ysgolion
- Canolbwyntio ar fagu hyder i siarad Cymraeg
- Tystysgrif cwblhau - da i'r CV a ffurflenni cais swyddi/astudio pellach

Dangos Diddordeb
Eisiau'r manylion diweddaraf am unrhyw gyfleoedd newydd? Llenwa'r ffurflen isod i gofrestru dy ddiddordeb. Byddwn yn anelu at ddarparu cyfleoedd newydd ar sail y wybodaeth byddwn yn casglu, felly cofia roi cymaint o wybodaeth â phosib er mwyn i ni allu cynnig yr hyn sydd fwyaf addas i ti.
