Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cronfa Ariannol

Cronfa Ariannol Wrth Gefn

Eisiau cymorth ariannol wrth ddysgu Cymraeg? 

Mae cymorth ar gael drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn i Ddysgwyr.

I fod yn gymwys, mae angen i chi:

  • fod wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg gydag un o Ddarparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,
  • fod yn 16 mlwydd oed neu hŷn ar 31 Awst 2025,
  • fod yn breswylydd sefydlog, cyfreithiol, yn y DU, a hynny ers o leiaf 3 blynedd; neu gwrdd â'r amodau preswylio yn y Canllaw Cymhwysedd Dysgwyr ar gyfer cyllid ôl-16 (manylion yn y polisi ar y wefan),
  • gadarnhau y basai’n anodd cael mynediad i’ch astudiaethau heb gymorth gan y Gronfa achos fod ystyriaethau ariannol yn rhwystr, e.e. dych chi ar incwm isel.

 

Mae posib cael cymorth ariannol i'ch helpu gyda chostau fel

  • gofal plant
  • adnoddau (e.e. llyfrau, offer technegol)
  • costau teithio a pharcio

*Nid oes modd hawlio cymorth at ffioedd cwrs

 

Mae dogfennau 2025-2026 ar gael isod. 

Adnoddau

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais a'i e-bostio, ynghyd â'r holl dystiolaeth angenrheidiol, i cyllid@dysgucymraeg.cymru; neu postiwch at

Swyddog Trefniadaeth, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ

Hawliad am y Cyfnod

Dyddiad Derbyn Ceisiadau

Tymor 1

(Medi 2025 – Rhagfyr 2025)

02.01.2026

Tymor 2

(Ionawr 2026 – Mawrth 2026)

03.04.2026

Tymor 3

(Ebrill 2026 – Gorffennaf 2026)

17.07.2026

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am y gronfa a/neu'r cais, siaradwch gyda’ch tiwtor/darparwr, neu cysylltwch â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Manylion isod:

Darparwr lleol

Cysylltu â ni

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Y Llwyfan

Heol y Coleg

Caerfyrddin

SA31 3EQ

cyllid@dysgucymraeg.cymru