Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arholiadau CBAC

Gwybodaeth gynhwysfawr am Arholiadau CBAC

Arholiadau

Mae'r cymwysterau yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Mae'n bosib ennill y cymwysterau trwy sefyll arholiad ar ddiwrnod penodol. Mae'r arholiadau yn agored i oedolion sy wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith neu sy wrthi'n dysgu ar hyn o bryd.  

Mae'r cymwysterau yn addas i bobl sy'n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle. Does dim rhaid bod mewn dosbarth i sefyll arholiad na bod wedi sefyll arholiad is yn gyntaf. 

Mae'r fframwaith yn y tabl isod yn dangos sut mae'r cymwysterau yn perthyn i'r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop. 

Cymhwyster Lefel yn y fframwaith Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop
Mynediad Mynediad A1
Sylfaen 1 A2
Canolradd 2 B1
Uwch 3 B2

GWYBODAETH

Dyma'r dyddiadau ar gyfer arholiadau 2026:

Lefel Dyddiad
Mynediad Ionawr 30 Ionawr
Mynediad Dydd 9 Mehefin
Mynediad Nos Nos Fercher 10 Mehefin
Canolradd 12 Mehefin
Uwch 17-18 Mehefin
Sylfaen 19 Mehefin

Bydd modd cofrestru i sefyll arholiadau Cymraeg 2026 trwy gysylltu gydâ'ch darparwr cyrsiau

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â darparwr cwrs.

Os dych chi’n dysgu ar gwrs sy’n cael ei gynnal gan un o'r darparwyr cyrsiau Dysgu Cymraeg, mae’r arholiadau am ddim.

Fel arall, rhaid cofrestru fel ymgeisydd preifat, a bydd ffi i’w dalu.

Os dych chi’n ansicr, cysylltwch â’ch canolfan arholi lleol.