Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Canllawiau Cynllun Siarad

Dych chi’n cymryd rhan yn y Cynllun Siarad ar eich risg eich hun a disgwylir i chi gymryd bob gofal.  Dyma ganllawiau syml i’ch helpu chi gadw’n ddiogel. 

  • Mae’n rhaid bod dros 18 i gymryd rhan yn y cynllun.
  • Gallai fod yn syniad da i ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol i gymryd rhan yn y cynllun.
  • Byddwch yn ofalus i beidio â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol, e.e. manylion cerdyn credyd, enw banc, enw anifail anwes neu gyfenw eich mam cyn priodi, y gellid eu defnyddio i gael mynediad at wybodaeth ariannol.
  • Os dych chi’n cymryd rhan yn y cynllun, does dim angen i chi rannu eich rhif ffôn, enw gweithle nag unrhyw wybodaeth arall ynghylch pwy dych chi.
  • Ar ôl cael eich paru byddwch yn derbyn e-bost yn eich cyflwyno i’ch partner Siarad.  Efallai y byddwn yn cymryd ychydig o amser i ddarganfod partner addas, ond byddwn yn cysylltu yn syth pan fydd hyn wedi digwydd.  Os dych chi eisiau newid eich partner, dych chi'n gallu gwneud hynny trwy gysylltu gyda'ch darparwr lleol.
  • Byddwch yn gallu cytuno gyda’ch gilydd pa mor aml dych chi’n cwrdd ag am ba hyd. 
  • Dych chi’n gallu trefnu cwrdd i ymarfer siarad a mynd i bethau gyda’ch gilydd yn y gymuned, e.e. cymdeithas, côr, gig, drama neu sgwrsio yn rhithiol.  
  • Gallwch drafod pynciau pob dydd neu sôn am bethau dych chi wedi gweld, gwneud neu ddarllen.  
  • Wrth gofrestru, dych chi’n cytuno i ni ddefnyddio eich data i gadw mewn cysylltiad â chi, ac i’ch darparwr lleol rannu eich cyfeiriad e-bost ac enw cyntaf gyda’r partner Siarad.  Dim ond cyfeiriad e-bost ac enw cyntaf fydd yn cael ei rannu gyda’r partner Siarad.