Croeso! Croeso i’n cwrs CROESO Cymraeg ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen fer hon wedi’i chynllunio i gefnogi eich taith ddysgu ac i ddarparu ymadroddion ymarferol ar gyfer eu defnyddio yn y gweithle. Fel y nodir yn Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd, mae’r Gymraeg yn ased gwerthfawr i’n sefydliad ac yn rhan bwysig o’n diwylliant. Rydym yn annog pob cydweithiwr i fuddsoddi yn eu datblygiad a chryfhau eu sgiliau Cymraeg, beth bynnag fo’u man cychwyn.
Mae’r rhaglen fer hon wedi’i chynllunio i danio eich taith ddysgu drwy gynnig geiriau ac ymadroddion ymarferol allweddol ar gyfer eu defnyddio yn y gweithle. Trwy ddarparu cyfleoedd hygyrch a hyblyg i ddechrau defnyddio a deall y Gymraeg, mae’r cwrs hwn yn cefnogi uchelgais y Llywodraeth i ddod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, sy’n agored, yn gynhwysol ac yn hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.