Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn
triangle vector pattern triangle vector pattern

Cwrs Wythnos

Sylfaen 1 (Foundation 1)
Dosbarth rhithiol
Dosbarth rhithiol
Cyfeirnod y cwrs: DCSWAW0425
Hyd: 1 Wythnos
Dyddiad cychwyn: 26/05/2026
Dyddiad Gorffen: 30/05/2026
Amser + Diwrnod: 09:30 - 15:30 Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn
Tafodiaith: De
Ffrwd dysgu: Prif Ffrwd
Darparwr: Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
£40.00
Lle ar ôl: 19
Dyddiad cau ar gyfer ymrestru: 19/05/2026

Ynglŷn â'r cwrs

Cwrs Dwys 5 Diwrnod Ar-lein Lefel Sylfaen
Wythnos 1: Unedau 1-5

Dyma’r cam cyntaf mewn cyfres o gyrsiau wythnos allai eich galluogi i gwblhau Lefel Sylfaen. Mae'r math yma o gwrs yn ddelfrydol i'r rhai sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg mewn cyfnodau ysbeidiol o ddysgu dwys.

FFORMAT Y CWRS
Byddwch yn ymuno ag un sesiwn fore ac un sesiwn brynhawn bob dydd (dros Zoom) dan arweiniad tiwtor profiadol. Bydd gofyn i chi gwblhau tasgau a gwaith astudio annibynnol rhwng y sesiynau drwy'r wythnos hefyd. Mae'r dull hwn yn ddwys, felly byddwch yn barod i fod yn brysur trwy'r dydd!!

Bydd arnoch angen copi o’r llyfr cwrs Sylfaen (Fersiwn De Cymru), sydd ar gael o siopau llyfrau Cymraeg lleol (fel Tŷ Tawe yn Abertawe neu Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe) neu drwy archebu ar wefan gwales.com. Mae'n werth cael copi caled o'r llyfr cwrs, ond gallwch hefyd lawrlwytho copi PDF am ddim yma: https://dysgucymraeg.cymru/dysgu/llyfrgell-adnoddau/adnodd/?ResourceId=9d922070-2c72-48ec-9762-dc8f6b0cf249

GOSTYNGIADAU ARBENNIG
I weld rhestr lawn o’r gostyngiadau sydd ar gael ewch i:
https://dysgucymraeg.cymru/aba
yna cliciwch ar 'Cymorth Ariannol'.
Sylwch: dim ond un cod y gellir ei ddefnyddio wrth gofrestru ac mae’n bosib y bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ffurfiol eich bod yn gymwys.

CYMORTH ARIANNOL YCHWANEGOL
Mae modd gwneud cais am gymorth ychwanegol gyda chostau dysgu drwy ein Cynllun Bwrsariaeth DCABA, sydd wedi’i anelu at unigolion sy’n wynebu anawsterau ariannol i’w helpu gyda ffi eu cwrs (yn dibynnu ar eich amgylchiadau).
I wneud cais, cysylltwch â: dysgucymraeg@abertawe.ac.uk
Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn genedlaethol hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth i rai cymwys gyda chostau sy’n gysylltiedig ag astudio ar gwrs ( ond nid y ffi cwrs ei hun). Mwy o wybodaeth a ffurflen gais yma: dysgucymraeg.cymru/cymorth/cronfa-ariannol