Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Cwrs wyneb yn wyneb sydd yn Campws Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth.
Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion bob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith. Byddwch yn cwblhau tua hanner y lefel Mynediad ar y cwrs hwn.
Bydd cost ychwanegol o £12 am y cwrslyfr, a gallwch brynu’r llyfr yma: http://bit.ly/CwrslyfrMynediadNewyddDe
’Dyn ni’n cynnig gostyngiad o 50% oddi ar ein cyrsiau i ddechreuwyr pur! Defnyddiwch y cod WELSH26 wrth ymrestru a thalu am eich cwrs (rhaid i chi dalu’r ffi cwrs yn llawn erbyn 30/09/2026 i dderbyn y gostyngiad). Os eich cyflogwr sydd yn talu, a dych chi am i ni godi anfoneb, nid yw'r gostyngiad Cyw Cynnar yn cyfri. Os dych chi rhwng 18-25 oed, neu’n gweithio mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru, bydd y cwrs am ddim i chi!