Cymraeg ar gyfer Gofal Lliniarol
Ynglŷn â'r cwrs
Mae’r pecyn yma wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y gweithlu Gofal Lliniarol yng Nghymru. Mae wedi ei ddatblygu gyda chymorth gan arbenigwyr yn y maes er mwyn sicrhau bod yr iaith a gyflwynir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.
Mae’n addas os ydych chi’n cychwyn ar eich taith dysgu Cymraeg, neu os ydych chi eisiau magu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddoch chi yn y gwaith.
Croeso gan Mari Grug
Diolch i’r gyflwynwraig Mari Grug am ei chefnogaeth wrth greu’r pecyn dysgu yma.
Er cof am Aled Roberts
Mae’r pecyn wedi ei greu gyda nawdd drwy elusen Macmillan er cof am y gwleidydd achyn-gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts. Darllenwch fwy trwy ddilyn y ddolen nesaf: Cronfa goffa Aled Roberts | Dysgu Cymraeg
Beth sydd yn y pecyn dysgu?
- Ymwybyddiaeth: Pam mae’r Gymraeg yn bwysig mewn gofal lliniarol? Astudiaethau achos o Fwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.
- Dysgu: Cwrs Blasu Gofal a Chysur yn Gymraeg
- Uned 1: Croeso – geiriau a brawddegau syml i’w defnyddio wrth groesawu a chyfarch
- Uned 2: Y corff, y meddwl a'r emosiynau – geirfa syml i’w defnyddio wrth drafod symptomau ac asesu cleifion
- Uned 3: Beth sy'n bwysig i chi? – geiriau, brawddegau a chwestiynau i gyfleu empathi, dealltwriaeth a chysur yn Gymraeg
- Uned 4: Dysgu dewisol ychwanegol – yr wyddor ac ynganu, amser, dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn
- Uned 5: Holl eirfa'r adrannau 1-3
- PDF o’r holl eirfa yn Uned 1-3
Cyrsiau Blasu Rhithiol i'r Gweithlu Gofal Lliniarol
Yn ogystal â'r cwrs ar-lein, mae cyrsiau blasu rhwng 1 a 10 awr gyda thiwtor ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth anfonwch ebost at: iechydagofal@dysgucymraeg.cymru
Beth yw gofal lliniarol?
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy am Ofal Lliniarol gan Eleri yn Ysbyty Treforys.
Adnoddau dysgu
Ymwybyddiaeth: Pam mae’r Gymraeg yn Bwysig Mewn Gofal Lliniarol?
Gwyliwch yr astudiaethau achos yma o Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Treforys.
Diolch i staff Ty Geraint, Bronglais a Thy Olwen, Treforys am eu holl gymorth wrth ddatblygu’r pecyn hwn.