Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cronfa goffa Aled Roberts

Cronfa goffa Aled Roberts

Yn dilyn marwolaeth y gwleidydd a chyn Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, o ganser yn 2022, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac elusen Macmillan wedi derbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg.  

Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.

Yn ôl Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts, “Roedd Aled wedi dechrau ar y gwaith o drafod pwysigrwydd y Gymraeg gyda Macmillan yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg.

“Mi gawsom ni wedyn brofiad personol o bwysigrwydd y Gymraeg pan oedd Aled ei hun yn wael – iddo ef ac i ninnau.  Roeddem yn ymlacio mwy pan oedd nyrs neu ddoctor yn siarad Cymraeg, ac ychydig o straen yn cael ei dynnu o sefyllfa anodd.

“Felly roedd cynnig pecyn Dysgu Cymraeg fyddai’n galluogi mwy o weithwyr i siarad Cymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes yn ddewis naturiol i ni.

"Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gronfa hon.  Mae’n cynnwys rhoddion hael yn dilyn marwolaeth Aled, yn ogystal ag arian gafodd ei gasglu gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chôr Johns’ Boys.  Diolch i chi gyd.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Roedd y Gymraeg yn agos iawn at galon Aled ac fe fu’n ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith – wrth ei waith ond hefyd yn ei ardal enedigol oedd mor bwysig iddo.

“Mae’r gronfa hon wedi ein galluogi ni i greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.

“Byddwn hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn – eto, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.”

Bydd tlws yn cael ei roi, er cof am Aled Roberts, i berson sy’n gwirfoddoli yn y sector Dysgu Cymraeg.  Bydd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 14 Mai 2024.