Cwrs Sylfaen Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Dyma gwrs sy'n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy'n gofyn am rywfaint o brofiad o'r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.
Bydd y cwrs yma yn y Ganolfan.
Mae gostyngiad Cyw Cynnarar gael tan 31ain o Orffennaf. Teipiwch y cod CYW26 i dderbyn gostyngiad o 50%.
Mae'n RHAID i chi dalu wrth gofrestru.
Byddwch chi’n defnyddio llyfr cwrs “Dysgu Cymraeg: Sylfaen/Foundation (A2)- De Cymru/South Wales - Fersiwn 2”, sydd ar gael YMA neu i’w brynu ar www.gwales.com neu o’ch siop lyfrau lleol.
Mae cymorth ariannol ar gael. Cliciwch y linc am ragor o wybodaeth - Cronfa Ariannol
Cyrsiau AM DDIM
· Gall pobl rhwng 18–25 oed gael y cwrs AM DDIM! Bydd y disgownt yn cael ei gymryd yn awtomatig wrth gofrestru - nid oes angen cod.
· Gall y rhai sy’n gweithio yn y sector addysg ddefnyddio’r cod ADDYSG ar gyfer cwrs AM DDIM. Ar ôl i chi gofrestru, cwblhewch y FFURFLEN hon i g adarnhau cymhwyster gostyngiad os gwelwch yn dda.
· Gweithwyr Cyngor Sir Benfro - defnyddiwch y cod disgownt PCC26 ar gyfer cwrs AM DDIM. Ar ôl i chi gofrestru, cwblhewch y FFURFLEN AWDURDODIAD hon os gwelwch yn d da.