Cwrs Mynediad Rhan 1
Ynglŷn â'r cwrs
Manylion cyswllt Popeth Cymraeg:
✉ gwybod@popethcymraeg.cymru
📞 01745 812287
(Rhan 1) Dyma gwrs ar gyfer dechreuwyr, sy’n cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion pob dydd. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
💰 Gostyngiadau
Gostyngiad o 50% - defnyddiwch y côd WELSH26 i dalu dim ond £50 am y cwrs! Yn ddilys tan 30 Medi 2026.
Mae cyrsiau ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer:
- Pobl ifanc 18 - 25 oed
- Gweithwyr yn y sector addysg yng Nghymru - Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
📚 Beth fyddwch chi ei angen
Byddwch yn defnyddio llyfr cwrs Dysgu Cymraeg: Mynediad/Entry (A1) Fersiwn 2 - Gogledd Cymru/North Wales.
- Copi Digidol: Gallwch lawrlwytho copi pdf yma
- Copi Caled: Gallwch brynu copi o’ch siop Gymraeg leol neu archebu copi ar-lein o www.ffolio.cymru.
Cymorth Ariannol: Cliciwch yma am fanylion Cymorth Ariannol.
Mae cynnal y cwrs yn ddibynnol ar niferoedd digonol o gofrestriadau. Rhoddir ad-daliad llawn os nad yw cyrsiau’n rhedeg a does dim cwrs addas arall ar gael.