Cwrs Mynediad a Sylfaen
Ynglŷn â'r cwrs
***Cynnig Arbennig*** Llefydd am ddim (wedi'u noddi) ar gael ar y cwrs hwn!!
Nid yw’r cwrs hwn yn llawn eto; er mwyn mynegi diddordeb cliciwch ar ‘express interest’ a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi.
Mae’r Cwrs Dwys yn dysgu dwy lefel gyfan o fewn un flwyddyn – Mynediad rhan 1 & 2 a Sylfaen rhan 1 & 2. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr ac yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith syml ac ymadroddion bob dydd. Unwaith y byddwch chi’n gyfarwydd â’r patrymau hyn, bydd y pwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod ystod eang o bynciau.
Byddwch chi’n gymwys i sefyll dau arholiad CBAC ar y cwrs hwn – un ym mis Ionawr ac un ym mis Mehefin. Bydd adolygu ar gyfer hwn yn rhan o waith y dosbarth.
Byddwch chi’n defnyddio llyfr cwrs “Dysgu Cymraeg: Mynediad / Entry (A1) - (De Cymru / South Wales)” ar gyfer rhan gyntaf y cwrs, a’r cwrs lyfr “Dysgu Cymraeg: Sylfaen / Foundation (A2) - (De Cymru / South Wales)” ar gyfer ail ran y cwrs. Gallwch brynu copi o’r cwrs lyfr ar-lein neu o’ch siop lyfrau Cymraeg lleol.