Wyt ti'n hoffi'r syniad o ddysgu yn y modd traddodiadol - trwy fynychu gwersi wythnosol? Os felly, dyma'r math o gwrs i ti.
Mae sawl opsiwn o ran dull dysgu y math hwn o gwrs:
- Wyneb-i-wyneb: yn y dosbarth
- Rhithiol: mewn grŵp, gyda thiwtor
- Cyfunol (wyneb-i-wyneb): elfennau o hunan-astudio ar-lein ynghyd â dysgu wyneb-i-wyneb yn y dosbarth
- Cyfunol (rhithiol): elfennau o hunan-astudio ar-lein ynghyd â dysgu mewn dosbarth rhithiol (dros Teams/Zoom)
Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig ar bob lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, Hyfedredd. Felly, mae cwrs ar gael ar dy lefel di, lle bynnag rwyt ti arni.
Fel arfer, mae lefel gyfan yn cymryd 120 awr o amser dysgu. Gall y nifer o oriau dysgu bob wythnos amrywio (fel arfer, 2-4 awr/wythnos); ac mae hefyd opsiynau i ddysgu'n ddwys (e.e. pythefnos yn llawn amser).
Mae modd sefyll arholiad CBAC lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, ac Uwch.
Dyma gyfle i gymysgu yn y dosbarth gyda dysgwyr eraill o bob oed a chefndir.
Ni fydd angen i ti dalu am y cwrs hwn os wyt ti rhwng 16 a 25 oed.
Bydd cyrsiau penodol i rai 16-25 oed yn cael eu cynnig unwaith eto o fis Medi 2025 ymlaen. Bydd dolen ar gael fan hyn unwaith bydd y cyrsiau yma'n cael eu hysbysebu.
Galli di chwilio am gwrs trwy ddefnyddio'r Dewin Dysgu isod. Wrth i ti gofrestru a gosod dy ddyddiad geni, bydd ffi y cwrs yn diflannu. Os hoffet sgwrs i drafod yr opsiynau, mae manylion cyswllt y darparwyr lleol ar gael drwy glicio fan hyn.