Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio gyda 9 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru. Pwyswch ar y botwm i ddysgu mwy am gyrsiau a gweithgareddau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi.
Lefelau Dysgu
Mae pum lefel wahanol – o ddechreuwyr i siaradwyr profiadol.
Pwyswch ar y botwm am fwy o wybodaeth.
Math o gyrsiau
Mae sawl ffordd i ddysgu Cymraeg yn y gymuned.
- Mewn dosbarth wyneb yn wyneb gyda thiwtor
- Mewn dosbarth rhithiol gyda thiwtor
- Cwrs cyfunol (25% hunanastudio ar-lein, 75% gyda thiwtor)
Pwyswch ar y botwm i wylio’r fideo a dysgu mwy am y gwahanol ddulliau. Pa un sydd fwyaf addas i chi?
Pa gwrs nesa?
Dych chi wedi gorffen un cwrs gyda Dysgu Cymraeg ac yn meddwl am y cwrs nesa? Cofiwch edrych ar bob opsiwn cyn cofrestru.
Pwyswch ar y botwm i wylio’r fideo i ddysgu mwy.
Defnyddio eich Cymraeg
Mae'r gwersi Cymraeg yn lot fawr o hwyl, ond mae digon o gyfleoedd i chi ymarfer, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill hefyd.
Pwyswch ar y botwm am fwy o wybodaeth.