Eisiau dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith gyda'ch plentyn?
Mae llawer o opsiynau ar gael i chi.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.
Eisiau dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith gyda'ch plentyn?
Mae llawer o opsiynau ar gael i chi.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.
Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg ar wahanol lefelau dysgu ar gael, yn ystod y dydd a gyda'r nos.
Dych chi'n gallu dysgu wyneb-yn-wyneb, neu mewn dosbarth rhithiol.
Mae cyrsiau 'Cymraeg yn y Cartref' hefyd ar gael. Mae'r cyrsiau yma, ar gyfer dechreuwyr, wedi'u teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Dewiswch y dolenni isod er mwyn chwilio am gwrs, ac i gael mwy o wybodaeth am y lefelau dysgu.
Partneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yw Clwb Cwtsh.
Mae sesiynau hwyliog, ysgafn y Clwb Cwtsh ar gael yn rhad ac am ddim.
Byddwch yn dysgu geiriau ac ymadroddion i'w defnyddio gyda'ch plant ifanc, gan ddefnyddio canu a gemau.
Dewiswch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Eisiau dysgu mwy am addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog? Beth am ddefnyddio ein hadnodd ar-lein rhad ac am ddim.
Mae tair rhan i'r adnodd:
• Cyflwyniad i addysg cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.
• Geirfa ac ymadroddion defnyddiol.
• Syniadau ac awgrymiadau i helpu.
Dewiswch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.