Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Clwb Cwtsh

Croeso

Croeso

Mae Clwb Cwtsh yn bartneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin. 

  • Mae Clwb Cwtsh yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion sy’n berthnasol i fagu plant ifanc.
  • Mae Clwb Cwtsh yn annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg gyda’u plant. 
  • Mae'r sesiynau yn ysgafn a hwyliog, ac yn defnyddio canu a gemau. 
  • Mae sesiynau rhithiol a wyneb-yn-wyneb ar gael.

Diddordeb mewn cofrestru? Dewiswch y ddolen isod.

Lefelau Dysgu Cymraeg

Mae llawer o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gael.

Mae cyrsiau ar wahanol lefelau – o ddechreuwyr i siaradwyr profiadol.

Dewiswch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Blas o Glwb Cwtsh

Eisiau blas o sesiynau Clwb Cwtsh?

Mae Lowri Delve wedi creu fideos byr, pum munud o hyd.

Dewiswch y botwm isod er mwyn gwylio'r fideos.

Fideo

Profiad y Dysgwr

Sarah Sir Fynwy
Dw i wrth fy modd gyda'r ffaith bod Clwb Cwtsh wedi fy helpu i siarad Cymraeg gyda fy mhlant. Mae'r sesiynau wedi fy helpu gyda fy hyder i siarad Cymraeg yn ddyddiol.
Vikki Sir Benfro
Dw i eisiau fy mab dyfu lan yn siarad Cymraeg felly roedd Clwb Cwtsh yn ffordd berffaith o ddechrau. Mae e'n hoff iawn o ganeuon a straeon, ac mae'r sesiynau wedi rhoi'r hyder i mi ddarllen a chanu gyda fo.
Andy Wrecsam
I fi, mae dysgu geirfa newydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a chael fy annog i ddefnyddio'r eirfa y tu allan i'r dosbarth.
Michelle Bro Morgannwg
Roedd cynnwys, hyd ac amserlen y cwrs yn ddelfrydol, a dwi bellach wedi cofrestru ar gwrs lefel Mynediad. Bob wythnos, ro'n i'n dysgu mwy o eirfa, a dw i'n edrych ymlaen at siarad mwy o Gymraeg yn y cartref.

Cysylltu

Eisiau mwy o wybodaeth am Glwb Cwtsh yn eich ardal chi? Dych chi'n gallu chwilio am #ClwbCwtsh ar-lein, neu dewiswch un o'r dolenni isod er mwyn cysylltu.