Cafodd Aled Roberts ei eni a'i fagu yn Rhosllanerchrugog ger Wrecsam, ac mi aeth i Ysgol y Ponciau, Ysgol y Grango ac Ysgol Rhiwabon.
Aeth yn ei flaen i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn gweithio fel cyfreithiwr yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug.
Roedd yn gyn-Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, a bu’n Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd.
Aled Roberts oedd Comisiynydd y Gymraeg rhwng 2019 a 2022.