Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Undeb Rygbi Cymru

Dysgu Cymraeg drwy rygbi
Croeso

Diolch i’r berthynas rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae’n haws nag erioed i ddysgu Cymraeg drwy rygbi.  

'Dyn ni wedi creu dau gwrs blasu rhad ac am ddim a rhai adnoddau ychwanegol i chi.  Dych chi'n gallu defnyddio'r rhain ar-lein yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun. 

Mae mwy o wybodaeth am y cyrsiau ar gael isod. 

Ein tîm, ein hiaith - ewch amdani!

Cwrs blasu - Cefnogwyr a Chwaraewyr

Mae’r cwrs blasu yma i Gefnogwyr a Chwaraewyr.  Mae’r cwrs wedi ei rannu yn ddwy ran.  Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys unedau 1 i 5, ac mae’r ail ran yn cynnwys unedau 6 i 10. 

Mae’r ddwy ran yn cymryd tua 3-4 awr i’w cwblhau, a dych chi'n gallu dod yn ôl i’r cwrs unrhyw bryd i ail-afael ynddi ac i ymarfer eto.

Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i ymgyfarwyddo ag ymadroddion a thermau rygbi fydd o gymorth mewn cyd-destun rygbi ac yn eich bywyd bob dydd.

Cwrs blasu – Rheolwyr a Gweithwyr

Mae’r cwrs blasu yma i Reolwyr a Gweithwyr sefydliadau rygbi yng Nghymru. 

Er mwyn cael mynediad i’r cwrs, rhaid i chi gofrestru gyda chynllun Cymraeg Gwaith a meddu ar gôd cyflogwr dilys. 

Mae’r cwrs wedi ei rannu yn ddwy ran.  Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys unedau 1 i 5, ac mae’r ail ran yn cynnwys unedau 6 i 10. 

Anthem Lucia