Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Wrecsam 2-9 Awst
Amserlen y Ganolfan yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau ar gyfer dysgwyr ym Maes D, bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ac yn cyfrannu at ddigwyddiadau partneriaid yn ystod wythnos yr Eisteddfod.   

Dyma gopi o'r amserlen, neu gallwch lawrlwytho copi PDF drwy ddewis y ddolen isod. 

Uchafbwyntiau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

 

Beth yw'r Eisteddfod?

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop. Mae’r ŵyl yn dathlu’r celfyddydau, yr iaith Gymraeg a’r diwylliant yng Nghymru. Mae’r Eisteddfod yn y de a’r gogledd bob yn ail flwyddyn. Mae cystadlaethau, sioeau, gigs, stondinau a llawer iawn mwy o weithgareddau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnos.

Beth yw Maes D?

Mae Maes D yn ardal i ddysgwyr Cymraeg ar y maes. Mae’n gyfle i ddysgwyr gymdeithasu a chwrdd â dysgwyr eraill, cystadlu, casglu gwybodaeth, a chael hwyl yn defnyddio ac ymarfer eu Cymraeg.

Dewiswch y ddolen nesaf i weld amserlen Maes D yn Eisteddfod Wrecsam 2025: Amserlen Maes D

Hanes yr Eisteddfod

Roedd yr Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi yn 1176. Roedd beirdd a cherddorion o bob rhan o Gymru wedi mynd a chystadlu am y gadair.

Cafodd yr Eisteddfod ‘fodern’ gyntaf ei chynnal yn Aberdâr yn 1861, ac ers hynny, mae wedi datblygu ac ehangu. Bydd Eisteddfod 2026 yn Sir Benfro – 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi.