Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwrs Preswyl i Arweinwyr

Cwrs Preswyl yn Nant Gwrtheyrn
Cwrs i Arweinwyr mewn Addysg

Dyma gyfle i ymuno gydag un o gyrsiau ‘Defnyddio’ Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'n gwrs preswyl pum niwrnod sy'n cael ei gynnal yn Nant Gwrtheyrn.

  • Cwrs penodol i Arweinwyr mewn Addysg.
  • Cynhelir sgwrs dros y ffôn er mwyn sicrhau cofrestriad ar y lefel gywir.
  • Bydd y cwrs yn cael ei gynnal rhwng y 17eg a’r 21ain o Ebrill, 2023.
  • Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar godi hyder er mwyn cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.
  • Bydd noson o adloniant yn cael ei threfnu ar y nos Fawrth a byddwch yn ymweld ag atyniad lleol ar y prynhawn Mercher.
  • Bydd llety mewn ystafell sengl en-suite, a lluniaeth wedi eu cynnwys.
  • Bydd cost ychwanegol o £55 am wely a brecwast os ydych eisiau aros yn y Nant ar y nos Sul cyn y cwrs.
  • Ni fyddwn yn talu am gostau teithio.
Cofrestru

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, cysylltwch â ni drwy e-bostio cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org.