Cwrs Addas I: Ymarferwyr Cynradd ac Uwchradd i ddechrau’r daith iaith.
Lefel: Mynediad.
Hyd: 12 mis (bydd modd i chi ddilyn y cwrs ar eich cyflymder eich hun, ar adeg sy’n gyfleus i chi).
Dull Dysgu: Hunan-Astudio Ar-lein gyda chefnogaeth Tiwtor.
Lleoliad: Bydd sesiynau rhithiol gyda Thiwtor yn cael eu darparu fel rhan o’r cwrs hwn. Byddan nhw'n cynnwys sesiynau adolygu, sgwrsio ayyb. Bydd manylion dyddiadau ac amseroedd yn cael eu rhannu unwaith bydd y cwrs wedi dechrau.
Dyddiad Dechrau: 13 Ionawr 2025.
Bwriad y cwrs: Bydd y cwrs yn cyflwyno patrymau ieithyddol sylfaenol. Dyma’r cwrs i’w ddilyn os dych chi’n newydd i’r Gymraeg neu gydag ychydig o sgiliau Cymraeg eisoes.
Er mwyn mynegi diddordeb yn y cwrs, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda.
Byddwn mewn cysylltiad gyda manylion y cwrs yn nes at ddyddiad dechrau'r cwrs. Os na fyddwch wedi clywed gennyn ni erbyn 13 Ionawr 2025, cysylltwch â cymorth@dysgucymraeg.cymru.