Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd Dysgwyr

Mae’r hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y cyrsiau Dysgu Cymraeg i oedolion (“y Cwrs”) a sut mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (“y Ganolfan”) yn casglu, prosesu a rhannu eich data personol gyda darparwyr y cwrs (“y Darparwyr”)

At ddibenion y gyfraith diogelu data gymwys, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (Rheoliad (EU) 2016/679) (GDPR y DU) (“Cyfraith Diogelu Data”), y Ganolfan o Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP yw Rheolwr Data'r wybodaeth mae’n casglu gennych. 

Gellir cysylltu â Swyddog Data a Dadansoddi'r Ganolfan ar 03003234324 petai gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth.

Egwyddorion Diogelu Data 

Bydd y Ganolfan yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae’r ddeddf yn dweud bod rhaid i'r wybodaeth bersonol a gadwn amdanoch chi: 

  1. Gael ei defnyddio yn gyfreithlon, yn deg ac mewn ffordd dryloyw. 
  2. Fod wedi'i chasglu yn unig at ddibenion dilys yr ydym wedi'u hesbonio'n eglur i
    chi ac nad ydynt wedi'u defnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r
     dibenion hynny. 
  3. Fod yn berthnasol i'r dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt ac yn
    gyfyngedig i'r dibenion hynny yn unig. 
  4. Fod yn gywir ac mor ddiweddar â phosib. 
  5. Yn cael ei chadw cyn belled ag y bo ei hangen yn unig, at y dibenion yr ydym
    wedi dweud wrthych amdanynt.
  6. Yn cael ei chadw'n ddiogel.

Pa wybodaeth fydd y Ganolfan yn ei chasglu?

Bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch trwy gydol eich holl ymwneud â’r Ganolfan. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:

  • Enw llawn
  • Dyddiad geni
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Unrhyw anawsterau dysgu sydd gennych
  • Unrhyw broblemau yn ymwneud ag iechyd
  • Manylion y cwrs
  • A wnaethoch chi gwblhau Cwrs Dysgu Cymraeg o’r blaen, unrhyw gymwysterau y gwnaethoch ymgeisio amdanynt ac a gafwyd o’r blaen
  • Perfformiad ar y Cwrs (gan gynnwys presenoldeb, unrhyw ganlyniadau cymwysterau, lle bo angen)
  • Unrhyw wybodaeth fyddai’n ein helpu i wneud addasiadau rhesymol i chi
  • Unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych i’r Ganolfan mewn ffurflenni cysylltu neu trwy ohebiaeth
  • Gwybodaeth am anghenion dysgu ychwanegol i’w rannu gyda’ch Tiwtor

Mae gwybodaeth bersonol hefyd yn cynnwys categorïau arbennig o ddata personol. Data yw hyn am eich tarddiad hil neu ethnig, barn wleidyddol, cred grefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, data genetig a biometreg, data am eich iechyd, neu dueddfryd rhywiol. Os bydd y Ganolfan yn casglu’r wybodaeth hon gennych yn ystod eich amser ar y Cwrs, efallai y gofynnir i chi roi cydsyniad penodol. 

Pam mae’r Ganolfan yn prosesu fy ngwybodaeth bersonol ac i beth mae’n cael ei defnyddio?

Bydd y Ganolfan yn prosesu eich gwybodaeth at ddibenion:

  • eich ymrestru ar y Cwrs
  • dyrannu darparwr i chi
  • cefnogaeth yn ystod eich amser ar y Cwrs ac wedi hynny (lle bo angen)
  • rhedeg y Cwrs o ddydd i ddydd
  • monitro cwblhau a chynnydd ar y Cwrs
  • adrodd ar bresenoldeb a sut mae’r Cwrs yn mynd
  • rhannu gwybodaeth am gyrsiau eraill gyda chi

O ble bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth?

  • Gwybodaeth a roddwch i’r Ganolfan - bydd y Ganolfan yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gennych pan fyddwch yn cysylltu â’r Ganolfan neu pan fyddwch yn ymrestru trwy’r Ffurflen Gofrestru ar un o’r Cyrsiau.
  • Gwybodaeth o’r adnoddau yr ydych yn eu cwblhau ar-lein
  • Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych gan y Darparwr.
  • Gwybodaeth mae’r Ganolfan yn derbyn gennych o ffynonellau eraill megis tiwtor eich Cwrs.

Gall gwybodaeth gael ei rhannu gan Ddarparwyr eraill gyda’r Ganolfan at ddibenion adrodd, er enghraifft, y Cwrs, presenoldeb, cynnydd a chwblhau.

Sut rydym yn defnyddio'ch data personol 

Byddwn ond yn defnyddio'ch data personol pan fydd y gyfraith yn ein galluogi ni i wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio'ch data personol yn yr amgylchiadau canlynol: 

  • Lle mae angen i ni gyflawni'r contract yr ydym ar fin ei ddechrau gyda chi neu yr ydych chi wedi ymuno ac ef. 
  • Lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mewn sefyllfa ble nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn goresgyn y buddiannau hynny. 
  • Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol. 

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol heblaw mewn perthynas ag anfon cyfathrebiadau marchnata uniongyrchol trydydd parti i chi trwy e-bost neu neges destun. Mae gennych yr hawl serch hynny i dynnu eich caniatâd i ni farchnata i chi ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

Y dibenion y byddwn yn defnyddio'ch data personol ar eu cyfer 

Mae arnom angen rhai categorïau o ddata personol er mwyn eich ymrestru, ac i chi fod yn fyfyriwr ar y Cwrs.  

Bydd hyn yn cynnwys (fel sy’n berthnasol):

  • prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn i ni gyflawni ein rhwymedigaethau dan gontract gyda chi (megis contract y myfyriwr gyda’r Ganolfan); (bydd hyn hefyd yn cynnwys ein gallu i brosesu a newid unrhyw gamgymeriadau megis ‘teipos’ yn eich gwybodaeth bersonol a adnabyddir gennym);
  • prosesu sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a osodwyd gan gyfreithiau Lloegr sy’n gymwys i ni yn y Deyrnas Unedig.

Gall eich cydsyniad hefyd fod yn rheswm cyfreithiol dros brosesu eich data personol yng nghyswllt eich amser fel myfyriwr yn y Ganolfan neu gyda’r Darparwr. Mae hyn yn golygu eich cydsyniad penodol, gwybodus a diamwys a roddir yn rhydd ac y gellir ei gasglu gennych, er enghraifft, pan fyddwch yn cytuno i dderbyn gohebiaeth farchnata gennym ni neu pan gytunwch i gymryd rhan mewn arolygon neu ymchwil farchnad (fel sy’n berthnasol). Dylech sylweddoli bod gennych hawl dan Gyfraith Diogelu Data i dynnu’n ôl eich cydsyniad lle’i rhoddwyd, ar unrhyw adeg. 

Rydym hefyd wedi nodi isod, mewn fformat tabl, ddisgrifiad o'r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio'ch data personol, a pha rai o'r sylfeini cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo hynny'n briodol. 

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un maes cyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol yr ydym yn defnyddio'ch data. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y maes cyfreithiol penodol yr ydym yn dibynnu arno i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un maes wedi'i nodi yn y tabl isod. 

Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod: 

  • Mae Budd Cyfreithiol yn golygu diddordeb ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i'n galluogi i roi'r gwasanaeth / cynnyrch gorau a'r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol a negyddol) a'ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Nid ydym yn defnyddio'ch data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae'r effaith ar eich buddiannau chi yn fawr (oni bai bod gennym eich caniatâd neu fel arall ble mae'n ofynnol neu'n ôl y gyfraith). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn asesu ein buddiannau cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch chi trwy gysylltu â ni. 
  • Mae Perfformiad Contract yn golygu prosesu eich data lle bo'n angenrheidiol ar gyfer perfformio contract yr ydych yn rhan ohono, neu gymryd camau ar eich cais cyn neu wrth i chi ymrwymo i gontract o'r fath. 
  • Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo. 

Y sawl fydd yn derbyn eich gwybodaeth

Cyllidir y Ganolfan a’r Darparwyr gan y Llywodraeth at ddibenion darparu’r Cyrsiau. Er mwyn eich dyrannu i ddarparwr penodol, sicrhau bod y Cyrsiau yn cael eu rhedeg yn effeithiol, darparu adborth am faint sy’n cymryd y Cyrsiau ac i adrodd am y modd y defnyddir y cyllid, gallwn rannu eich data personol gyda’r Darparwr. Lle bo modd, gall y Ganolfan wneud eich data personol yn ddienw neu ei gydgasglu.

Mae gan y Ganolfan, y Darparwyr a’r Llywodraeth oll ddiddordeb cyfreithlon yn rhedeg y Cyrsiau a helpu dysgwyr gyda’r iaith Gymraeg.

Gall y Ganolfan rannu eich gwybodaeth bersonol: 

  • Gyda’r Darparwyr;
  • Gyda Llywodraeth Cymru;
  • Gyda CBAC at ddibenion cofrestru ar Arholiadau Dysgu Cymraeg i Oedolion
  • Gyda chyflogwyr at ddibenion y Cynllun Cymraeg Gwaith
  • Gydag awdurdodau rheolaethol, llysoedd ac asiantaethau’r llywodraeth i gydymffurfio â gorchmynion cyfreithiol, gofynion cyfreithiol neu reolaethol a cheisiadau’r llywodraeth; a/neu
  • Gyda’n hymgynghorwyr a gwerthuswyr cyfreithiol a phroffesiynol eraill.

Pwrpas / Gweithgaredd

Math o ddata

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gan gynnwys sail buddiant dilys 

I'ch cofrestru fel dysgwr / I 'ch cofrestru ar arholiadau

(a) Manylion personol

(b) Cysylltu  

Perfformiad contract gyda chi

Prosesu a chyflwyno'ch cais am gwrs gan gynnwys:

(a) Rheoli taliadau, ffioedd a thaliadau

(b) Casglu ac adennill arian sy'n ddyledus i ni

(a) Manylion personol

(b) Cyswllt

(c) Ariannol

(ch) Trafod

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformiad contract gyda chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i adennill dyledion sy'n ddyledus i ni) 

I reoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys:

(a) Hysbysu chi am newidiadau i'n telerau neu bolisi preifatrwydd

(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu gymryd arolwg

(c) I fonitro eich perfformiad ar gwrs, gan gynnwys adolygu a monitro eich sgoriau mewn unrhyw brofion neu asesiadau

(a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(ch) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformiad contract gyda chi

(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol

(c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i gadw ein cofnodion yn ddiweddar ac i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch / gwasanaethau) 

Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan yn y Cynllun Siarad

(a) Manylion Personol
(b) Cyswllt

(a) Perfformiad contract gyda chi

Er mwyn cofrestru eich diddordeb i fod yn diwtor gyda’n Darparwyr

(a) Manylion Personol
(b) Cyswllt

(a) Perfformiad contract gyda chi

Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth wobrwyo, cystadlu neu gwblhau arolwg

(a) Manylion Personol

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a Chyfathrebu

(a) Perfformiad contract gyda chi

(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch / gwasanaethau, i'w datblygu a thyfu ein busnes) 

Gweinyddu a diogelu ein busnes a'r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd (a chynnal data)

(a) Manylion Personol

(b) Cyswllt

(a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein busnes, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyll ac yng nghyd-destun ad-drefnu busnes neu ymarfer ailstrwythuro grŵp)

(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol 

I ddarparu cynnwys a hysbysebion gwefan berthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion a wasanaethwn ichi

(a) Manylion Personol

(b) Cyswllt

(c) Proffil

(ch) Defnydd

(d) Marchnata a Chyfathrebu

Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae cwsmeriaid yn defnyddio ein cynnyrch / gwasanaethau, i'w datblygu, i dyfu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata) 

I ddefnyddio dadansoddiadau data i wella cynhyrchion / gwasanaethau, marchnata, perthnasau a phrofiadau cwsmeriaid  

(a) Defnydd

Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o gwsmeriaid am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, i ddatblygu ein busnes ac i lywio ein strategaeth farchnata)

I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am gyrsiau neu wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi

(a) Manylion Personol

(b) Cyswllt

(c) Defnydd

(ch) Proffil  

Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein cynnyrch / gwasanaethau a thyfu ein busnes)

Sut rydym yn defnyddio data personol arbennig o sensitif 

Mae 'na “gategorïau arbennig" o wybodaeth bersonol arbennig o sensitif yn gofyn am lefelau amddiffyn uwch. Mae angen i ni gael cyfiawnhad pellach dros gasglu, storio a defnyddio'r math yma o wybodaeth bersonol. 

Gallwn brosesu categorïau arbennig o wybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol: 

  1. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gyda'ch caniatâd penodol.
  2. Lle mae ei angen er budd y cyhoedd, megis ar gyfer monitro cyfle cyfartal. 

Yn llai cyffredin, gallwn brosesu'r math yma o wybodaeth lle mae ei hangen mewn perthynas â hawliadau cyfreithiol neu lle mae ei hangen er mwyn amddiffyn eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych yn gallu rhoi eich caniatâd, neu lle rydych chi eisoes wedi gwneud y wybodaeth yn gyhoeddus. 

Cynigion hyrwyddo gennym ni 

Efallai y byddwn yn defnyddio'ch Manylion Personol, Cyswllt, Defnydd a Phroffil i lunio barn ar yr hyn yr ydym yn ei feddwl y dymunwch ei angen neu ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi, ac yn cysylltu â chi i’ch hysbysu amdanynt. 

Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym os ydych chi wedi gofyn am wybodaeth gennym ni neu wedi cofrestru gyda ni.

Marchnata trydydd parti 

Byddwn yn ceisio eich caniatâd penodol cyn i ni rannu eich data personol gydag unrhyw gwmni y tu allan i'r Darparwyr Cwrs at ddibenion marchnata. 

Tynnu allan  

Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti roi'r gorau i anfon negeseuon marchnata i chi ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg. 

Os byddwch yn tynnu allan o dderbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i ni o ganlyniad i brynu cynnyrch / gwasanaeth, cofrestru gwarant, profiad cynnyrch / gwasanaeth neu gyswllt arall. 

Newid pwrpas 

Byddwn ond yn defnyddio'ch data personol at y dibenion y cafodd ei gasglu, oni bai ein bod yn rhesymol yn ystyried bod angen inni ei ddefnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol.

Os hoffech gael eglurhad ynghylch sut mae'r prosesu ar gyfer y pwrpas newydd yn gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni. Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben arall, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn egluro'r sail gyfreithiol sy'n ein galluogi i wneud hynny. 

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth neu'ch caniatâd, yn unol â'r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu yn ôl y gyfraith. 

Datgeliadau o'ch data personol 

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda'r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 3 uchod. 

  • Trydydd Bartïon Allanol: 

- Darparwyr gwasanaeth sy'n gweithredu fel proseswyr sy'n seiliedig yn y DU sy'n darparu gwasanaethau gweinyddu TG neu systemau tebyg eraill 

- Cynghorwyr proffesiynol yn gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr sy'n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifo. 

- Cyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy'n gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr wedi'u seilio yn y Deyrnas Unedig y bydd angen inni adrodd am weithgareddau prosesu iddynt dan rai amgylchiadau. 

- Trydydd bartïon y gallem ddewis gwerthu, trosglwyddo, neu uno rhannau o'n busnes neu ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn yn ceisio caffael busnesau eraill neu uno â hwy. Os bydd newid yn digwydd i'n busnes, yna gall y perchnogion newydd ddefnyddio'ch data personol yn yr un modd ag a nodir yn y rhybudd preifatrwydd hwn. 

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau. 

Diogelwch data 

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei ddefnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu yn ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i'ch data personol i'r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill y mae ganddynt reswm busnes i wybod amdano. Byddant ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddiadau ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd. Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw dorri rheolau data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o doriad rheolau data personol lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol. 

Eich hawliau cyfreithiol 

O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â'ch data personol. 

Mae gennych yr hawl i: 

  • Ofyn am fynediadi'ch data personol (gelwir yn gyffredin fel "cais am fynediad deiliad data"). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu'n gyfreithlon. 
  • Ofyn am gywiro'rdata personol yr ydym yn ei ddal amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a roddwch i ni. 
  • Ofyn am ddileueich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu data personol lle nad oes rheswm da dros barhau i'w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu’r prosesu (gweler isod), lle efallai y byddwn wedi prosesu'ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â'ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi, os yw hyn yn berthnasol, ar adeg eich cais. 
  • Wrthwynebu prosesueich data personol lle rydyn ni'n dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn medru arddangos bod gennym sail gyfreithlon gref i brosesu eich gwybodaeth sy'n trechu eich hawliau a'ch rhyddid. 
  • Ofyn am gyfyngu ar brosesueich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y senarios canlynol: (a) os ydych chi am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) lle mae ein defnydd o'r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle mae angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad ydym bellach ei angen gan y bydd ei angen arnoch i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) eich bod wedi gwrthwynebu ein defnydd o'ch data ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol i'w ddefnyddio sy’n trechu eich gwrthwynebiad.
  • Ofyn am drosglwyddoeich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd parti o’ch dewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig, sy’n gyffredin ei ddefnydd, ac sy'n ddarllenadwy gan beiriant. Noder mae’r hawl hwn ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y rhoddoch ganiatad i ni ei defnyddio yn lle cyntaf, ac a ddefnyddiwyd i berfformio contract gyda chi.
  • Dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeglle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gynhelir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynnyrch neu wasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl. Os hoffech chi ymarfer unrhyw un o'r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

Gwneud Data yn Ddienw

Gallwn drosi eich data personol yn ddata ystadegol neu a gydgasglwyd yn y fath fodd fel ag i sicrhau nad ydych yn cael eich enwi neu y gellir eich adnabod o’r data hwnnw.  Gallwn ddefnyddio’r data hwn a gydgasglwyd i gynnal ymchwil farchnad a dadansoddiadau, gan gynnwys er mwyn cynhyrchu ymchwil ac adroddiadau ystadegol. Er enghraifft, yr ydym yn derbyn cyllid gan y Llywodraeth a bydd angen i ni adrodd iddynt am faint o bobl sydd wedi dewis cymryd y Cwrs, y cyfraddau llwyddiant ac adborth yn gyffredinol am y ffordd mae’r cwrs yn mynd rhagddo. Gallwn rannu data a gydgasglwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys am yr un rhesymau ag y gallwn rannu data personol (gweler isod).

Cyfnodau Cadw

Bydd y Ganolfan yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn unig am y cyfnod o amser y byddwch yn fyfyriwr ar y Cwrs ac am 6 blynedd wedi cwblhau’r cwrs hwnnw.

Trosglwyddo y tu allan i’r AEE

Ni fydd y Ganolfan yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r AEE.

Diogelwch eich data personol

Yr ydym yn cymryd camau i ddiogelu’r data personol yr ydym yn prosesu ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn unol â Chyfraith Diogelu Data. Yn benodol, byddwn yn ymdrechu i gynnal camau sefydliadol a thechnegol priodol i’n helpu i ddiogelu eich data personol gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei drosglwyddo, ei storio neu fel arall ei brosesu, rhag ei ddinistrio, ei golli, newid, datgelu heb awdurdod, neu gyrchu yn anghyfreithlon neu’n ddamweiniol. Mae’r camau hyn yn cynnwys camau diogelu cyfrifiadurol a ffeiliau a chyfleusterau wedi eu gwneud yn ddiogel.

Lle’r ydym wedi rhoi i chi (neu lle’r ydych wedi dewis) cyfrinair sydd yn eich galluogi i gyrchu rhai rhannau o’n platfform digidol, chi sydd yn gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn gofyn i chi rannu cyfrinair gyda neb.

Canlyniadau methu â darparu data personol

Mae gennych yr hawl i gael gwybod am ganlyniadau posib methu â darparu’r data personol y gofynnwn ni i chi amdano. Gall unrhyw fethiant i ddarparu data personol effeithio ar eich gallu i gael eich derbyn ar y Cwrs.

Eich hawl i wneud cwynion gyda’r awdurdod goruchwylio preifatrwydd data

Heb ragfarnu unrhyw rwymedi gweinyddol neu farnwrol arall a fydd gennych, mae gennych yr hawl i wneud cwyn gyda Chomisiynydd Gwybodaeth y DU os ydych yn ystyried ein bod wedi torri cyfreithiau preifatrwydd data cymwys wrth brosesu eich data personol. 

DU: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, <https://ico.org.uk/> 

Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd

Caiff unrhyw newidiadau a wnawn i’n hysbysiad preifatrwydd yn y dyfodol eu postio ar y dudalen hon. Cofiwch fwrw golwg yn aml i weld unrhyw gyfoesiadau neu newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd.

Cyswllt

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

03003234324

swyddfa@dysgucymraeg.cymru

Cwcis

Yn ôl rhagosodiad, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhoi cwcis ar eich cyfrifiadur i roi'r profiad gorau i chi. Os byddwch yn parhau i bori ar ein gwefan, bydd hyn yn golygu eich bod yn cydsynio i hyn.

Os nad ydych am i'r wefan hon osod cwcis ar eich cyfrifiadur, dylech addasu gosodiadau eich porwr. Mae www.allaboutcookies.org yn wefan hynod o ddefnyddiol, sy'n dangos i chi y modd i ddileu a rheoli'r cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur. Sylwer, trwy ddileu neu analluogi cwcis, efallai na fydd ein gwefan yn gweithredu'n gywir.

Beth yw cwci?

Mae cwcis yn ddarn o wybodaeth ar ffurf ffeiliau testun bach sy'n cael eu gosod ar yriant caled defnyddwyr y Rhyngrwyd. Fe'u defnyddir gan y rhan fwyaf o wefannau i helpu i bersonoli eich profiad ar y We, er enghraifft trwy ddilysu, a hefyd i ddibenion dadansoddi. Ni all cwcis gario firysau na maleiswedd. Mae cwcis yn sicrhau bod y rhyngweithio ar ein gwefan yn gyflymach ac yn haws.

Pam y dylwn dderbyn cwcis?

Os na fyddwch yn caniatáu i gwcis gael eu defnyddio, ni fydd rhai nodweddion ar y wefan hon yn gweithio'n gywir. Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth sensitif mewn cwci.

Y cwcis yr ydym yn eu defnyddio:

Cwci

Enw

Diben

Fersiwn iaith

langPrefWAG

Mae'r cwci hwn yn cael ei greu gan y system rheoli cynnwys, ac mae'n hanfodol er mwyn i'r wefan allu arddangos fersiwn iaith gywir y wefan.

Olrhain Sesiynau

JSessionID

I olrhain sesiwn pan fydd cwcis yn cael eu hanalluogi. Mae hyn yn caniatáu i'r porwr gadw eich sesiwn.

GoogleAnalytics

_ga

_gat

_gid

Defnyddir y cwci hwn i ddarganfod ym mha ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. 'Dyn ni yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r wefan. Mae'r cwci yn casglu gwybodaeth ar ffurf anhysbys, gan gynnwys gwybodaeth ddemograffig, nifer yr ymwelwyr â'r safle, p'un a ydyn wedi ymweld o'r blaen, a'r tudalennau maen nhw'n ymweld â nhw.

CookieControl

civicAllowCookies
civicShowCookieIcon

Mae'r cwci hwn yn cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar ein gwefan.

Microsoft Application

ai_user

Mae enw'r cwci hwn yn gysylltiedig â'r feddalwedd Microsoft Application Insights, sy'n casglu gwybodaeth ystadegol am ddefnydd a thelemetreg ar gyfer apiau sydd wedi'u hadeiladu ar lwyfan cwmwl Azure. Mae hwn yn gwci dynodydd defnyddiwr unigryw, sy'n galluogi i nifer y defnyddwyr sy'n defnyddio'r rhaglen dros amser gael eu cyfrif. (Wedi'i gymryd o:https://cookiepedia.co.uk/cookies/ai_user/1)

 

YouTube

VISITOR_INFO1_LIVE

PREF

Youtube – IDE

PREF – youtube

VISITOR_INFO1_LIVE – youtube

YSC – Youtube

GPS – YOUTUBE

 

use_hitbox

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol ar gyfer arddangos fideos YouTube ar ein gwefan.

ASP.NET

ASP.NET_SessionId

Dyma'r sesiwn defnyddiwr y mewngofnodwyd iddi/sydd wedi'i dilysu

Facebook

presence

wd

fr

datr

xs

_fbp

sb

spin

Mae'r cwcis hyn yn hanfodol ar gyfer arddangos defnydd o Facebook ar ein gwefan. Mae Facebook yn defnyddio llawer o gwcis at wahanol ddibenion. Mae'r cwcis sydd yn cael eu storio yn dibynnu ar y sefylfa e.e. gall hyn fod os yw defnyddiwr wedi mewngofnodi, cofrestru neu allgofnodi. 

Dyn ni ddim yn casglu neu gadw eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu gyfeiriad) felly dydy'r wybodaeth hon yn gallu cael ei defnyddio i’ch adnabod. 'Dyn ni ddim yn rhoi caniatâd i Google defnyddio neu rannu ein data analytig.

Dysgwch mwy am ddiogelwch a phreifatrwydd yn Google Analytics. (Saesneg yn unig)